Cyhoeddi enw merch chwech oed fu farw mewn damwain
- Cyhoeddwyd

Mae enw merch chwe mlwydd oed, a laddwyd mewn damwain yn Sir y Fflint ddydd Sul, wedi cael ei gyhoeddi.
Bu farw Sadie Anne Jayne McGrady o Fostyn yn y ddamwain ar yr A548 ym mhentref Gwespyr ger Treffynnon.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r safle tua 12.00pm wedi adroddiadau fod car Vauxhall Corsa a char Ford Focus wedi taro yn erbyn ei gilydd.
Dywedodd yr heddlu fod naw o bobl yn y ddau gar.
Cafodd y ffordd ei chau fel y gallai hofrennydd ac ambiwlansys gyrraedd.
Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth.
Dywedodd y Prif Arolygydd Darren Wareing o Heddlu Gogledd Cymru: "Rwy'n gofyn i unrhyw un oedd yn teithio yng nghyffiniau cyffordd Tanlan ger y garej lleol ar yr A548 tua hanner dydd - ac a allai fod â gwybodaeth - gysylltu hefo Uned Plismona Ffyrdd yr heddlu ar 101."