Hosbis dydd newydd i gleifion Casnewydd yn agor

  • Cyhoeddwyd
Llun arlunydd y ganolfan newyddFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Bydd y ganolfan gwerth £2.9 miliwn yn darparu gwasanaethau ar gyfer 1,500 o gleifion bob blwyddyn

Mae hosbis dydd, sy'n darparu cymorth a gwasanaethau iechyd, wedi agor yng Nghasnewydd.

Am y tro cyntaf mewn 11 mlynedd, ni fydd rhaid i gleifion sy'n derfynol wael orfod teithio 10 milltir i Bont-y-pŵl i dderbyn gofyn iechyd lliniarol yn ddyddiol.

Mae Hosbis Dewi Sant yn cynnig clinig cemotherapi, gwasanaethau cymorth i blant, grwpiau profedigaeth a gofalwyr, a thriniaeth gyflenwol.

Bydd y ganolfan ym Malpas sy'n werth £2.9 miliwn yn darparu'r gwasanaethau ar gyfer 1,500 o gleifion bob blwyddyn.

Cartrefi cleifion

Bu'r elusen yn rhedeg gwasanaethau dyddiol o'u canolfan yng Nghwmbrân tan 2001.

Dywedodd Prif Weithredwr Hosbis Dewi Sant, Emma Saysell, nad oedd yr adeilad hwnnw yn addas bellach.

"Bu'n rhaid i gleifion gael eu cludo i Bont-y-pŵl.

"Rwyf wedi cynllunio i agor hosbis bwrpasol yng Nghasnewydd ers pum mlynedd.

"Gall cleifion gael ystod eang o wasanaethau, gan gynnwys gofal meddygol arbenigol, gofal cymdeithasol, a chyfle i bobl ryngweithio â phobl sydd yn yr un sefyllfa.

"Mae gennym gynllun gweithredu unigol ac mae gennym gynllun i ofalu am blant y mae eu rhieni yn marw o ganser neu glefyd arall."

'Gofal ysbaid'

Mae Hosbis Dewi Sant yn un gymunedol sydd hefyd yn darparu gwasanaethau hosbis yng nghartrefi cleifion yn hytrach na chynllun cleifion mewnol.

Mae Ms Saysell yn gobeithio bydd y ganolfan yng Nghasnewydd yn ategu at eu cynllun cartref.

"Rydym yn gofalu am 1,000 o gleifion yn eu cartrefi, sy'n syniad unigryw, am fod pobl yn aml yn hapusach i dderbyn gwasanaethau gartref.

"Ond gallan nhw ddod i'r ganolfan i dderbyn gofal ysbaid a rhoi how i'w gofalwyr."

"Mae cleifion sy'n wynebu terfyn eu hoes, a'u teuluoedd, yn wynebu nifer o broblemau, ac fe fydd ein hadeilad newydd yn eu helpu i ddelio â'r problemau hyn."

Bydd Hosbis Dewi Sant hefyd yn cynnig hyfforddiant i nyrsys ardal a staff cartrefi gofal sy'n gofalu am gleifion sy'n derfynol wael.

Mae'r gwasanaeth ar gael yng Nghasnewydd, Sir Fynwy, Torfaen, Caerffili a De Powys.

Mae gan Hosbis Dewi Sant hosbisau dydd ym Mhont-y-pŵl, Aberhonddu ac Ystrad Mynach a dwy ganolfan adnoddau yn Nhrefynwy a Chil-y-coed.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol