Ffermwyr llaeth a chwmnïau'n cytuno manylion yn y Sioe
- Cyhoeddwyd

Mae ffermwyr llaeth a chwmnïau wedi cytuno manylion cyffredinol ynglŷn â phrisiau, yn ôl Llywodraeth San Steffan.
Yn y bôn, mae'n gytundeb gwirfoddol, rhywfath o god ymarfer, ddylai roi mwy o ryddid i ffermwyr fargeinio pris eu cynnyrch.
Roedd y Gweinidog Amaeth, Jim Paice, wedi cadeirio cyfarfod rhwng gwleidyddion, undebau a phroseswyr yn y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd ddydd Llun.
Bydd y ddwy ochr yn trafod manylion pellach dros yr haf.
Dywedodd y cwmni prosesu Dairy UK eu bod yn "hapus iawn fod 'na gytundeb ar y cod ymarfer gwirfoddol.
"Mae 'na lawer o waith i'w wneud i weithredu'r cod ac rydym wedi ymrwymo i wneud hynny," meddai.
Ers dyddiau mae protestiadau wedi bod yng Nghymru a Lloegr wedi i bedwar cwmni ddweud eu bod yn bwriadu talu llai i ffermwyr am eu llaeth.
Mwy o brotestio?
Er bod y cytundeb yn golygu rhywfaint o obaith yn y tymor hir, meddai dirprwy lywydd NFU Cymru, Stephen James, nid oedd yn ateb i'r sefyllfa ar hyn o bryd.
Mae'r undeb wedi awgrymu y gallai'r protestiadau barhau.
"Bydd y cytundeb yn fframwaith y mae ei angen i ddelio â'r marchnadoedd camweithredol wrth wraidd yr argyfwng sydd ohoni heddiw," meddai.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Amaeth, Alun Davies, ei fod wedi pwyso o blaid ateb ar draws y diwydiant.
"Mae'r cynnydd heddi wedi bod yn dda ac rwy'n hyderus y bydd y cam hwn yn golygu newid gwirioneddol yn y sector," meddai.
Roedd pedwar o'r proseswyr wedi dweud eu bod yn bwriadu talu dwy geiniog y litr yn llai am laeth o Awst 1 ymlaen.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y gallen nhw ddeddfu er mwyn ceisio helpu'r sefyllfa os nad oedd cytundeb ar brisiau trwy'r DU.
Cyn y cyfarfod ddydd Llun roedd Mr Paice wedi trafod y mater gyda Mr Davies a Gweinidog Amaeth yr Alban, Richard Lochhead, ac wedi awgrymu y gallai arolygwr annibynnol gadw golwg ar gytundeb gwirfoddol.
Roedd ffermwyr wedi galw am god fyddai'n rhoi rhagor o bwerau iddyn nhw fargeinio am brisiau llaeth gwell.
Yn aml, maen nhw'n gaeth i gytundebau hirdymor gyda chwmnïau prosesu sy'n gwerthu'r llaeth i gwsmeriaid ar ran y ffermwyr.
'Dicter ac anobaith'
Roedd archfarchnadoedd Morrisons, Asda a Co-op wedi cyhoeddi y bydden nhw'n codi'r taliadau i ffermwyr o Awst 1.
Yn y cyfamser, bu dros 100 o ffermwyr llaeth ac aelodau undeb yn protestio ger stondin Asda ar Faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd ddydd Llun.
Roedd Meurig Raymond, dirprwy arlywydd yr NFU sy'n ffermio yn Sir Benfro, wedi dweud wrth brif brynwr cig eidion Asda, Jim Biggars: "Gallwch weld y dicter a'r anobaith ymlith y ffermwyr yma.
"Fy neges i Asda yw i ymateb i'r sefyllfa. Rhowch gyfle i'r bobl yma."
Dywedodd Mr Biggars fod Asda wedi cynyddu'r taliad i ffermwyr o 2 geiniog.
Yn ôl y cwmni, maen nhw wedi ymrwymo i weithio gyda ffermwyr i ddod o hyd i ateb tymor hir.
Dywedon nhw eu bod wedi cynyddu'r pris maen nhw'n ei dalu am laeth yr wythnos ddiwetha' a bod archfarchnadoedd eraill wedi dilyn eu hesiampl.
Mae proseswyr yn dadlau fod y farchnad laeth fydeang wedi crebachu dros y flwyddyn ddiwetha' ac mai dyna pam mae nifer o ffermwyr yn cael llai o dâl.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2012