Llofruddiaeth Prestatyn: Rhyddhau dau ar fechnïaeth
- Cyhoeddwyd

Mae dau o bobl gafodd eu holi gan yr heddlu yn dilyn llofruddiaeth ym Mhrestatyn wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth.
Bu farw dyn lleol 42 oed, Jonathan Sillett, yn y dref nos Sadwrn
Cafodd y dyn 22 oed a dynes 21 oed eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth wedi'r ffrwgwd ym Mhrestatyn, Sir Ddinbych.
Roedd "digwyddiad difrifol" yn ardal Ffordd y Traeth tu ôl i le cafodd y ffair a'r carnifal eu cynnal yn gynharach yn y dydd.
Mae'r heddlu'n cynnig cefnogaeth i deulu Mr Sillett.
Post mortem
Dros y penwythnos sefydlodd yr heddlu ystafell ymchwilio.
Nos Lun dywedodd yr heddlu bod yr ymchwiliad yn parhau.
Cafodd y crwner ei hysbysu ac mae archwiliad post mortem yn cael ei gynnal.
"Roedd 'na nifer o gerbydau yn yr ardal ar y pryd ac mae'r heddlu yn awyddus i glywed gan unrhyw un o'u perchnogion," meddai'r Ditectif Brif Arolygydd Graham Talbot.
"Rydym yn gweithio'n agos iawn gyda thîm plismona'r gymuned ..."
Os oes gan unrhyw un wybodaeth fe ddylai gysylltu gyda Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu Taclo'r Tacle'n ddi-enw ar 0800 555 11.