Trais ymhlith cyn-filwyr
- Published
Mae un ymhob 10 milwr sy'n dod adre' ar ôl gwasanaethu yn Irac ac Afghanistan yn ymddwyn yn dreisgar, yn ôl ystadegau newydd.
Mae tîm ymchwil o Kings College Llundain wedi darganfod bod 12% o filwyr wedi bod yn gysylltiedig â digwyddiadau treisgar yn y cartre' neu yn y gweithle ar ôl dychwelyd o faes y gad.
Fe gafodd tua 5,000 o bobl eu holi gan y coleg ac roedd un o bob wyth wedi cyfadde' iddyn nhw daro rhywun.
Mae'r adroddiad hefyd yn cyfeirio at gysylltiad rhwng trais, problemau iechyd meddwl a chamddefnyddio alcohol.
Fe adawodd Carwyn Huws y fyddin saith mlynedd yn ôl.
'Problemau'
"Pan wnes i adael y fyddin roeddwn i'n stryglo, fe wnes i ganfod gwaith ond roeddwn yn yfed lot, yn cael problemau fel 'flashbacks'.
"Doedd y fyddin ddim isio gwybod dim byd.
"Ges i gymorth gan elusen Combat Stress a chael gweld seiciatrydd.
"Dwi'n methu cael gwared ar y broblem ond wrth fynd yno am bythefnos ddwywaith y flwyddyn maen nhw'n fy nysgu sut i ymdopi gyda'r broblem."
Yn ôl y Dr Dafydd Alun Jones, seiciatrydd clinigol, does 'na ddim llawer o gymorth i filwyr.
"Roedd rhywun yn dweud bod milwyr yn cael eu hyfforddi ar gyfer y frwydr ond ddim yn cael hyfforddiant am ddychwelyd adra.
'Yn danllyd'
"Maen nhw mewn perygl o ymateb yn danllyd i rywbeth fydd yn eu hatgoffa nhw o be' ddigwyddodd.
"Mae'r hogia' yn dod allan o'r fyddin, yn dod adra, yn ôl yn eu cynefin ond heb y gynhaliaeth y maen nhw'n ei chael gan eu cyd-filwyr yn y fyddin.
"Does 'na ddim darpariaeth mewn gwirionedd."
Dywedodd awduron yr adroddiad fod angen i weithwyr y gwasanaeth iechyd a'r system gyfiawnder ystyried anghenion cyn-filwyr yn ofalus wrth eu hasesu.
Straeon perthnasol
- Published
- 16 Ebrill 2012
- Published
- 9 Chwefror 2011
- Published
- 21 Mai 2003