Dim tocyn ar ôl i gyngerdd agoriadol Prifwyl Bro Morgannwg

  • Cyhoeddwyd
Only Men Aloud
Disgrifiad o’r llun,
Dyma fydd trydydd cyngerdd Only Men Aloud yn yr Eisteddfod wedi'r Bala a Glyn Ebwy

Mae pob tocyn ar gyfer cyngerdd agoriadol yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mro Morgannwg wedi eu gwerthu.

Bydd yr arlwy yn dechrau gyda chyngerdd gydag Only Men Aloud yn y Pafiliwn ar nos Wener, Awst 3.

Yno hefyd y bydd Only Boys Aloud a chôr newydd, Only Vale Kids Aloud.

Ers misoedd, mae aelodau Only Men Aloud wedi bod yn mentora ac ysbrydoli plant ardal Bro Morgannwg ar gyfer y cyngerdd.

Only Vale Kids Aloud yw'r diweddaraf yn y teulu o gorau a byddan nhw'n dangos eu doniau am y tro cynta' yn y cyngerdd agoriadol.

Rhannu llwyfan

"Rydan ni'n edrych ymlaen," meddai Craig Yates, un o aelodau Only Men Aloud.

"Rwy'n meddwl y bydd o'n brofiad gwych gweld pawb yn canu gyda'i gilydd - os allwn ni ffitio pawb ar y llwyfan!

"Mae'r plant yn edrych ymlaen yn eiddgar yn barod, ac yn awyddus iawn i rannu llwyfan gydag Only Men Aloud.

"Er rwy'n siwr mai edrych ymlaen at weld Only Boys Aloud mae llawer iawn ohonyn nhw, go iawn!"

Cafodd côr Only Boys Aloud ei sefydlu ar gyfer cyngerdd agoriadol Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd ddwy flynedd yn ôl.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae'r côr o 160 o fechgyn o bob cwr o gymoedd y de wedi mynd o nerth i nerth.

"Roedd y cyngerdd yna'n wych. Noson arbennig iawn," ychwanegodd Mr Yates.

"Bydd yr ymateb a gafodd y bechgyn yn aros yn y cof am byth.

"Dim ond tri mis ynghynt y crëwyd y côr bechgyn, ac roedd bod ar y llwyfan gyda nhw, gweld mwynhad y gynulleidfa a'r hunan-hyder a ddaeth yn sgil hynny'n rhywbeth bythgofiadwy."

Llwyfan llawn

Ac er bod Only Boys Aloud wedi dod yn enwau cyfarwydd iawn yng Nghymru gyda chyfres deledu arbennig yn dilyn eu llwyddiant a chyfleoedd i gefnogi Only Men Aloud mewn cyngherddau, bu ymddangosiad ar raglen adloniant Britain's Got Talent ITV 1 yn ddigon i sicrhau bod y bechgyn yn denu sylw ym mhob cwr o'r DU a thu hwnt.

Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg fydd y trydydd tro i Only Men Aloud ymddangos ar lwyfan y Pafiliwn.

"Fe fydd y llwyfan dan ei sang," ychwanegodd Mr Yates.

"Bydd Only Men Aloud, Only Boys Aloud, Academi Only Boys Aloud y Principality ac Only Vale Kids Aloud ar y llwyfan.

"Dipyn o noson, a gobeithio y bydd pawb yn cael modd i fyw."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol