Ffrwgwd: Arestio chwech
- Cyhoeddwyd

Bu farw dyn lleol 42 oed, Jonathan Sillett, ym Mhrestatyn nos Sadwrn
Mae chwech wedi eu harestio ar amheuaeth o ddynladdiad wedi ffrwgwd ym Mhrestatyn dros y penwythnos.
Bu farw Jonathan Sillett, 42 oed.
Y chwech yw dau ddyn 21 oed, dyn 22 oed, dyn 23 oed, dyn 20 oed a menyw 19 oed.
Maen nhw i gyd yn lleol.
Cafodd dyn 22 oed a menyw 21 oed, oedd wedi eu harestio ar amheuaeth o lofruddio, eu rhyddhau ar fechnïaeth nos Lun.
Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Graham Talbot: "Mae'r ymchwiliadau'n parhau i'r farwolaeth amheus hon ac rydym yn awyddus i siarad ag unrhyw un oedd yn yr ardal ar y pryd ac a welodd unrhyw beth."
Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 101 neu Taclo'r Tacle'n ddienw ar 0800 555 111.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2012