Cyhoeddi enw beiciwr modur 17 oed

  • Cyhoeddwyd
Ystafell reoli
Disgrifiad o’r llun,
Bu'n rhaid cau'r ffordd am oriau

Dywedodd yr heddlu taw Louis Murray o Freystrop oedd y beiciwr modur 17 oed fu farw oherwydd gwrthdrawiad gyda fan ddydd Sadwrn.

Roedd y ddamwain ar hen Heol Penfro rhwng Burton a Hwlffordd am 6.45pm.

Bu farw yn y fan a'r lle a chafodd y ffordd ei chau am ychydig o oriau.

Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonioUned Plismona Ffyrdd Hwlffordd ar 01267 222020 neu 101.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol