Galw am fws mwy i'r 'Cardi Bach'

  • Cyhoeddwyd
Cardi Bach ym MwntFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,
Fe gafodd y gwasanaeth ei lansio am y tro cyntaf yn 2004

Mae honiadau bod nifer o deithwyr wedi methu defnyddio bws y 'Cardi Bach', sy'n cael ei redeg gan Gyngor Sir Ceredigion ar hyd arfordir de y sir, am nad oes digon o le arno.

Lansiwyd y gwasanaeth ar ei newydd-wedd ar Orffennaf 16 eleni.

Ond mae'n debyg fod nifer o deithwyr wedi cael eu gwrthod rhag cael eu cludo ar y bws 15 sedd am ei fod yn llawn.

Mae pobl leol yn galw ar Gyngor Ceredigion i ddarparu bws mwy o faint ar gyfer tymor yr haf.

Lansiwyd y gwasanaeth yn gyntaf yn 2004 i gysylltu pentrefi ar hyd arfordir de Ceredigion rhwng y Cei Newydd ac Aberteifi cyn dod i ben yn 2006 oherwydd trafferthion ariannol.

'Yn rhy fach'

Ond cafodd ei gyflwyno bob haf ers hynny tan 2011 pan gafodd Cyngor Ceredigion gyllid gan Gynllun Datblygu Gwledig yr Undeb Ewropeaidd i weithredu'r gwasanaeth bws trwy gydol y flwyddyn.

Mae'r gwasanaeth yn cysylltu trefi, pentrefi a thraethau rhwng Aberteifi a Chei Newydd ac yn cael ei weithredu gan Fws Werdd Cymdeithas Cludiant Gwledig y Preseli ar ran Cyngor Ceredigion.

Roedd Gwyneth Jones, 80 oed, o Bontgarreg yn teithio ar y Cardi Bach ddydd Sadwrn diwethaf.

"Cyrhaeddon ni bentref Cwmtudu a cheisiodd naw o gerddwyr ddal y bws i'r Cei.

"Ond doedd dim digon o le i chwech ohonyn nhw am fod y bws yn weddol llawn.

"Felly bu'n rhaid i dri ohonyn nhw naill ai gerdded y chwe milltir ar hyd yr arfordir i'r Cei neu ffonio am dacsi.

"Pan gyrhaeddon ni'r Cei Newydd mi ofynnais i'r gyrrwr a fyddai lle ar y bws i mi ddychwelyd adref i Bontgarreg.

"Dywedodd e doedd e ddim yn gwybod, felly penderfynais aros ar y bws.

'Bron a mogi'

"Mae'n amlwg fod y bws yn rhy fach o lawer ac mae angen bws ar gyfer mwy o bobl fel oedd ar gael yn y gorffennol."

Dywedodd teithiwr arall oedd ar y bws y diwrnod hwnnw, nad oedd am gael ei enwi, ei fod wedi clywed am achosion eraill lle'r oedd pobl wedi methu â dal y Cardi Bach am ei fod yn llawn yn ystod yr wythnos diwethaf.

"Un broblem arall ynghylch y bws newydd yw bod y gyrrwr yn gallu agor ffenest yn ei gaban ond yr unig ffenest arall ar y bws yw un yn y to.

"Dydd Sadwrn fe ofynnais i'r gyrrwr os allwn i agor y ffenest am fy mod i bron a mogi yn y tywydd poeth ond fe wrthododd oherwydd ei fod yn ofni y byddai'r ffenest yn cael ei ddifrodi gan frigau coed a chwythu bant."

Mae'r gwasanaeth yn rhedeg bob dydd ar wahân i ddydd Mercher rhwng Gorffennaf 16 a Hydref 31, ac ar ddyddiau Llun, Iau a Sadwrn rhwng Tachwedd 1 a Rhagfyr 31 - ar wahân i Ragfyr 24.

Yn ôl Cynghorydd Sir Aberporth, Gethin James, arian o Ewrop sydd wedi sicrhau dyfodol y Cardi Bach.

Ond dywedodd y dylai'r awdurdod lleol ystyried cyfrannu cyllid eu hun i wella'r gwasanaeth.

Monitro'r sefyllfa

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Ceredigion fod yr awdurdod lleol wedi gorfod defnyddio bws sy'n llai o faint oherwydd amodau'r grant Ewropeaidd.

"Mae'r gwasanaeth newydd yn casglu teithwyr o'u cartrefi neu fan cyfleus arall o fewn ardal benodol felly oherwydd ffyrdd cul bu'n rhaid i ni brynu bws 15 sedd yn hytrach na defnyddio bws 19 sedd gafodd ei ddefnyddio yn y gorffenol," meddai.

"Er hynny mae pobl a grwpiau yn gallu bwcio'r bws ymlaen llaw trwy'r cwmni bws nid hwyrach na 12.30pm ar y diwrnod cyn y siwrne.

"Rydym yn gobeithio y bydd pobl yn dechrau dod yn gyfarwydd â'r drefn newydd a bydd y sefyllfa yn gwella yn y dyfodol."

O ran y problemau ffenestri, dywedodd y llefarydd y byddai'r cyngor yn monitro'r sefyllfa ac yn trafod unrhyw broblemau gyda Chymdeithas Cludiant Gwledig y Preseli maes o law.

Mae BBC Cymru wedi gofyn i Gymdeithas Cludiant Gwledig y Preseli am eu hymateb ynghylch y mater.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol