BBC Cymru Fyw

Enwi cae pêl-droed er cof am Gary Speed

Published
image copyrightGetty Images
image captionChwaraeodd Gary Speed 85 tro dros Gymru gan sgorio saith gôl

Bydd cae lle chwaraeodd Gary Speed bêl-droed pan oedd yn blentyn yn cael ei enwi er cof amdano.

Bu farw cyn-reolwr tîm pêl-droed Cymru ym mis Tachwedd y llynedd.

Cafodd ei fagu yn Aston, Sir y Fflint ac fe fu'n byw yn agos i gae chwarae Parc Aston.

Dywedodd Noel Barnes, clerc Cyngor Cymuned Penarlâg, fod cynghorwyr wedi cytuno i gymeradwyo'r cynllun ac fe fyddan nhw'n trafod enw'r cae a'r geiriau fydd yn cael eu gosod ar gofeb gyda rhieni'r pêl-droediwr.

Cafwyd hyd i gorff Mr Speed, 42 oed, yn ei gartref yn Huntington ger Caer.

Teyrngedau lu

Wrth gofnodi rheithfarn naratif mewn cwest ym mis Ionawr eleni dywedodd crwner na allai gasglu a oedd ei farwolaeth yn fwriadol neu'n ddamweiniol.

Fe wnaeth y cwest glywed mai ei wraig ddaeth o hyd i'w gorff ychydig cyn 7am ar Dachwedd 27 2011.

Clywodd y cwest mai achos ei farwolaeth oedd iddo gael ei grogi.

Daeth teyrngedau lu o'r byd chwaraeon pan ddaeth y newyddion am ei farwolaeth.

Cafodd munud o ddistawrwydd ei chynnal mewn gemau pêl-droed ar draws y wlad gyda chefnogwyr nifer o'i gyn-glybiau - Leeds United, Everton a Newcastle United yn eu plith - yn gadael blodau, lluniau a sgarffiau er cof amdano.

Enillodd y cyntaf o'i 85 cap i Gymru yn erbyn Costa Rica yn 1990.

Enillodd fwy o gapiau i Gymru na'r un chwaraewr arall heblaw golwyr, a bu'n gapten 44 o weithiau gan sgorio saith gôl.

Mainc coffa

Dywedodd Mr Barnes fod y cae fydd yn cael ei enwi er cof am y chwaraewr canol cae "tua 50 llath o dŷ ei rieni".

"Roedd Gary Speed yn hanu o Aston sy'n rhan o'n hardal ni," meddai.

"Roedd y cynghorwyr am gydnabod bywyd Gary ond penderfynon nhw ohirio'r penderfyniad am ychydig o fisoedd i adael i bethau dawelu ychydig."

"Mae trafodaethau wedi cael eu cynnal â'i rieni a'i wraig ynghylch teyrnged addas.

"Cafodd y cynnig i ail-enwi cae roedd Gary'n defnyddio pan oedd yn blentyn a chytunodd y cyngor i weithredu'r syniad hwn."

Bydd y cyngor hefyd yn gosod mainc coffa a phlac er cof am cyn-gapten Cymru yn y parc.

Y disgwyl yw i'r cynllun gael ei gymeradwyo gan y cyngor ym mis Medi.

Straeon perthnasol

  • Ffrind Gary Speed yn codi arian