Merch Cymro yn arwres yn Colorado

  • Cyhoeddwyd
Arlywydd Barack Obama (de) yn cofleidio Stephanie Davies (ail o'r dde ), aachubodd fywyd ei ffrind Allie Young (chwith)Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Cofleidiodd Yr Arlywydd Obama Stephanie Davies pan ymwelodd ag Allie Young yn yr ysbyty

Achubodd merch dyn sy'n hanu o Gymru fywyd ei ffrind yn ystod digwyddiad pan gafodd 12 o bobl eu saethu yn farw mewn sinema yn Colorado yr wythnos diwethaf.

Disgrifiad,

David Grundy yn holi Malcom Davies

Cafodd 58 arall eu hanafu ar ôl i ddyn yn gwisgo mwgwd saethu at gynulleidfa tra'r oedden nhw'n gwylio'r ffilm Batman, The Dark Night Rises, yn ardal Aurora yn ninas Denver ddydd Gwener.

Mae James Holmes, 24 oed, wedi ei gyhuddo o'r llofruddiaethau a gallai gael ei ddedfrydu i farwolaeth.

Roedd Stephanie Davies, 21 oed, yn y sinema yn Aurora pan ddechreuodd y saethu.

Cilcennin

Achubodd Stephanie fywyd ei ffrind, Allie Young, 19 oed, gan ei thynnu i'r llawr ac aros gyda hi wedi i Allie gael ei saethu yn ei gwddf.

Rhoddodd Stephanie bwysau ar y clwyf tan iddi allu symud ei ffrind allan o'r sinema.

Wedi'r digwyddiad fe gafodd Stephanie ei chofleidio gan Arlywydd America, Barack Obama pan aeth ar ymweliad a'r ddinas.

"Rwyf wedi siarad ag Allie ac fe fydd hi'n iawn oherwydd gweithred amserol Stephanie," meddai'r Arlywydd.

"Dwi ddim yn gwybod faint o bobl o unrhyw oedran fyddai wedi gallu gwneud beth wnaeth Stephanie na dangos yr un dewrder ag Allie.

Dywedodd tad Stephanie, Malcolm Davies, a ymfudodd i America yn 1989 ei fod yn falch iawn o'i ferch.

"Rwyf mor falch a diolchgar na chafodd hi ei hanafu," meddai Mr Davies, sy'n hanu'n wreiddiol o Gilcennin, sydd oddeutu chwe milltir o Aberaeron yng Ngheredigion.

"Rwyf wedi rhyfeddu iddi fod mor ystyriol gan helpu ei ffrind."

Yn y cyfamser fe fydd tîm pêl droed Abertawe yn cynnal munud o dawelwch er cof am y rhai fu farw yn Aurora cyn eu gêm gyfeillgar yn erbyn Colorado Rapids am 2am ddydd Mercher.

Roedd y gêm yn cael ei chynnal mewn stadiwm tua 10 milltir o Aurora.

Colli oedd hanes Abertawe o 2-1 yn erbyn y Colorado Rapids.