Yn fêl i gyd?
- Cyhoeddwyd

Mae Gweinidog Amgylchedd Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun newydd a fydd yn helpu i amddiffyn amgylchedd unigryw Cymru a rhoi hwb i niferoedd ei gwenyn.
Amcangyfrifir bod pryfed sy'n peillio werth £430 miliwn y flwyddyn i Lywodraeth y DU.
Yn ystod ymweliad â'r Sioe Frenhinol fe wnaeth John Griffiths alw yn stondin Cymdeithas Gwenynwyr Cymru.
Yno cyhoeddodd ei fwriad i ddatblygu Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Pryfed Peillio.
Mae'r cynllun yn rhan o ymdrechion Llywodraeth Cymru i atal y dirywiad ym mhoblogaeth y gwenyn mêl, gwenyn cadw a phryfed hofran, sydd oll wedi gweld dirywiad difrifol dros y 30 mlynedd ddiwethaf.
"Rydyn ni'n gwybod bod 20% o dir dan gnwd y DU yn cynnwys cnydau sy'n dibynnu ar bryfed sy'n peillio," meddai Mr Griffiths.
"Mae cyfran uchel o flodau gwyllt yn dibynnu ar bryfed i'w peillio er mwyn atgenhedlu, ac yn ôl amcangyfrif ceidwadol mae'r pryfed werth £430 miliwn y flwyddyn i Lywodraeth y DU.
"Felly mae peillio yn wasanaeth hanfodol bwysig i'r ecosystem.
"Er gwaethaf eu pwysigrwydd, mae niferoedd y pryfed peillio wedi bod yn gostwng dros y 30 mlynedd diwethaf, ac rydyn ni'n gwybod y bydd y duedd hon yn parhau os na fyddwn yn gweithredu ar frys.
"Dyna pam rwy'n edrych ar ffyrdd o arafu a gwyrdroi'r gostyngiad yn niferoedd y pryfed sy'n peillio, a'r rheswm dros fy ymrwymiad i fynd i'r afael â'r mater."
Mwy o blanhigion
Bydd y cynllun gweithredu'n cael ei ddatblygu mewn partneriaeth ag asiantaethau allweddol, a gallai gynnwys:
- Newidiadau i'r system gynllunio a fyddai'n helpu i sicrhau bod datblygiadau'n 'gyfeillgar i bryfed sy'n peillio'
- Plannu mwy o blanhigion 'cyfeillgar i bryfed sy'n peillio' ledled yr ystâd gyhoeddus, gan gynnwys argloddiau rheilffyrdd ac ymylon ffyrdd
- Cydweithio gydag awdurdodau lleol i reoli parciau a mathau eraill o ofod gwyrdd cyhoeddus
- Annog planhigfeydd i werthu planhigion 'cyfeillgar i bryfed sy'n peillio' a rhoi cyngor i ddefnyddwyr
- Adeiladu sylfaen o dystiolaeth ynghylch effaith plaladdwyr drwy gydweithio gyda Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
- Gweithio'n agos gyda Chymdeithas Gwenynwyr Cymru a grwpiau gwirfoddol eraill.
Bydd y gwaith yn cael ei gyflawni yn unol ag egwyddorion a osodwyd yn rhaglen 'Cynnal Cymru Fyw' Llywodraeth Cymru, ac yn edrych ar yr holl ecosystem.
Bydd Llywodraeth Cymru nawr yn dechrau ar y gwaith o ddatblygu'r cynllun ar y cyd ag asiantaethau a sefydliadau perthnasol.
Dywedodd ymgyrchydd Cyfeillion y Ddaear, Bleddyn Lake, ei fod yn falch bod y Gweinidog wedi camu mor gyflym i helpu i amddiffyn gwenyn a phryfed eraill sy'n peillio, sy'n dirywio'n ddifrifol ledled y DU.
"Mae miloedd o bobl eisoes yn cefnogi'n hymgyrch, The Bee Cause, sy'n galw am weithredu ar golli cynefinoedd a defnydd o blaladdwyr," meddai.
"Mae angen cymorth a chyngor ar ffermwyr, cynghorau a chymunedau i amddiffyn y pryfed peillio hanfodol hyn - byddai treian o'n bwyd yn diflannu hebddynt, ac fe fyddwn yn talu pris drud iawn os byddwn yn eu colli."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd21 Mai 2008
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2012