Damwain: Merch 15 oed yn yr ysbyty
- Cyhoeddwyd
Mae merch 15 oed oedd yn cerdded ar Yr Wyddfa wedi dioddef anafiadau i'w phen ar ôl i garreg gwympo arni.
Cafodd y ferch ei chludo i'r ysbyty gan hofrennydd yn dilyn y digwyddiad ddydd Mawrth.
Cafodd Tîm Achub Mynydd Llanberis eu galw i helpu'r ferch oedd wedi bod yn cerdded ar lwybr Watkin.
Cafodd ei chludo gan hofrennydd y Llu Awyr i Ysbyty Gwynedd ym Mangor.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol