Arestio dyn 19 oed wedi ymosodiad yng Nghwmafan

Cafodd dyn 19 oed ei arestio wedi i ddyn 37 oed gael anafiadau difrifol i'w ben.

Mae'r dyn 37 oed mewn cyflwr difrifol ond sefydlog yn Ysbyty Treforys wedi'r ymosodiad yng Nghwmafan ger Port Talbot nos Lun.

Cafodd y dyn ei bwnio yn ei ben yn Cunard Row ger Tŷ Cwmafan.

Mae llanc 16 oed wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth yr heddlu.

Roedd yr ymosodiad am 10.55pm nos Lun.

'Dim cymhelliad'

"Mae'n ymddangos nad oedd yna gymhelliad i'r ymosodiad," meddai'r Ditectif Arolygydd David Hough.

"Cafodd anafiadau difrifol i'w ben.

"Pan ddigwyddodd yr ymosodiad rydym yn credu bod nifer o bobl yn yr ardal ar y pryd ...

"Dwi'n apelio at unrhyw un â gwybodaeth neu a welodd yr ymosodiad i gysylltu gyda ni."

Y rhif yw 101 neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.