Aelod o dîm achub i gludo'r Fflam Olympaidd yn Llundain
- Cyhoeddwyd

Bydd aelod o Dîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen yn cario'r Fflam Olympaidd yn Llundain a hynny wedi cais gan Y Tywysog William.
Bydd John Hulse, arweinydd tîm gyda'r sefydliad, yn cludo'r fflam i fyny Constitution Hill ddydd Iau.
Cafodd ei ddewis gan gyd-weithwyr wedi i'r Tywysog William - sy'n noddwr y Gwasanaeth Achub Mynydd yng Nghymru a Lloegr - ofyn am aelod i gael ei enwebu i gario'r Fflam yn Llundain.
Dywedodd Mr Hulse, 56 oed, bod hyn yn "anrhydedd enfawr" i gael ei ddewis ar ran y sefydliad.
Dewis elusen yr un
Mae Mr Hulse wedi bod yn arweinydd tîm achub mynydd ers dros 30 mlynedd gan gymryd rhan mewn dros 1,000 o ymgyrchoedd achub yn Eryri a gweddill y DU.
Fe fydd yn cynrychioli dros 50 o dimau achub a dros 2,500 o aelodau yng Nghymru a Lloegr.
Dywedodd Chris Lloyd, cadeirydd Sefydliad Achub Mynydd Dyffryn Ogwen, fod Y Tywysog William, ei wraig Duges Caergrawnt, a'i frawd Y Tywysog Harri, wedi dewis elusen yr un i ddewis rhywun i gario'r Fflam Olympaidd yn Llundain.
Mae'r sefydliad yn cyd-weithio â'r Tywysog William, sy'n gweithio fel peilot hedfan yng ngogledd Cymru i'r Awyrlu.
"Gofynnodd y Tywysog i rywun o'r Gwasanaeth Achub Mynydd yng Nghymru a Lloegr i gario'r Fflam yn Llundain," meddai Mr Lloyd.
"Y ni a benderfynodd pwy oedd yn haeddu cludo'r fflam ac roedd yn addas mai John fydd yn gwneud hynny wedi ei holl waith dros y sefydliad."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd29 Mai 2012
- Cyhoeddwyd30 Mai 2012