Menyw yn yr ysbyty ar ôl iddi syrthio oddi ar geffyl
- Published
Cafodd menyw ei chludo i'r ysbyty gan hofrennydd wedi iddi syrthio oddi ar geffyl ar draeth yng Ngwynedd.
Cafodd tîm achub Gwylwyr y Glannau yn Abersoch eu hanfon i'r traeth yn Llanbedrog tua 7pm ddydd Mercher.
Cafodd y fenyw ei chludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor gan hofrennydd yr Awyrlu.
Does dim manylion am ba mor ddifrifol yw ei hanafiadau.