Darn o gelfyddyd yn cyrraedd yr Ardd Fotaneg yn Sir Gâr

  • Cyhoeddwyd
Coedwig Bwganod
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd Coedwig Bwganod eu cludo o Rydychen ddydd Sadwrn

Mae darn o gelfyddyd amgylcheddol sy' wedi bod ar daith o Ghana wedi cyrraedd Cymru.

Bydd Coedwig Bwganod yn aros am byth yn Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

Dywedodd swyddogion yr Ardd taw hon oedd "y gelf osod amgylcheddol fwya arwyddocaol i ddod i Gymru" ac mae'r artist, Angela Palmer, wedi dweud bod y mewnosodiad yn symbol o'r bygythiad i goedwigoedd glaw.

Cafodd 10 o foncyffion eu cludo o Rydychen ar hyd yr M4 ddydd Sadwrn.

'Bob pedair eiliad'

Dros nos roedden nhw yng ngwasanaethau Pont Abraham cyn cael eu dadlwytho a'u gosod yn yr Ardd am 8am ddydd Sul.

Mae'r boncyffion hyd at chwe medr o led ar y gwaelod ac yn pwyso 20 tunnell.

"Heddiw mae coedwig drofannol maint cae rygbi yn cael ei dinistrio bob pedair eiliad," meddai Angela.

"Ac mae hyn yn effeithio ar hinsawdd, bioamrywiaeth a bywoliaeth y brodorion yn Affrica."

Dywedodd fod y coed wedi cwympo mewn stormydd.

"Heb ganghennau na dail mae'r gwaith yn drosiad, yn cyfleu ein bod ni'n dinistrio 'ysgyfaint' y byd."

Daeth hi â'r boncyffion o Goedwig Suhuma yn Ghana gyda chydweithrediad gweithwyr a'r awdurdodau.

'Camp'

Mae'r goeden fwyaf yn 300 oed.

Bydd y coed, sydd wedi eu harddangos y tu allan i Senedd Denmarc yn Copenhagen, yn cael cartre' parhaol oherwydd partnerniaeth rhwng yr Ardd a Maint o Gymru, elusen goedwig law.

Dywedodd Cyfarwyddwr yr Ardd, Dr Rosie Plummer: "Mae hon yn gamp i'r Ardd, Sir Gaerfyrddin a Chymru.

"Rydyn ni'n gobeithio y bydd ymwelwyr yn rhyfeddu at y mewnosodiad allai ysbrydoli barddoniaeth, celf, ffotograffiaeth, cerddoriaeth a theatr."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol