Adnabod corff dyn gafwyd hyd iddo yn Afon Llwyd
- Cyhoeddwyd

Doedd neb wedi gweld Ronald Bowman ers iddo adael ysbyty ddiwedd mis Mehefin
Mae Heddlu Gwent wedi cadarnhau mai corff dyn fu ar goll ers bron i fis gafwyd hyd iddo mewn afon ddydd Sul.
Roedd arbenigwyr wedi cael eu defnyddio i chwilio am Ronald Bowman, 74 oed o Langstone, Casnewydd.
Roedd Mr Bowman yn ddiodde' o ddimensia.
Doedd neb wedi gweld Mr Bowman ers iddo adael Ysbyty Panteg, Griffithstown, Torfaen, am 5.45pm ddydd Gwener Mehefin 29.
Cafwyd hyd i'w gorff yn Afon Llwyd ger Croes-y-ceiliog, Cwmbrân.
Straeon perthnasol
- 1 Gorffennaf 2012
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol