Nodi bod Joe Allen yn 'Sais' yn rhaglen swyddogl Team GB

  • Cyhoeddwyd
Mae'r gwall yn ymddangos yn rhaglen swyddogol y garfan ar gyfer y Gemau Olympaidd
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r gwall yn ymddangos yn rhaglen swyddogol y garfan ar gyfer y Gemau Olympaidd

Mae hi wedi dod i'r amlwg bod y pêl-droediwr o Gymru, Joe Allen, yn cael ei ddisgrifio fel Sais ym manylion y garfan yn rhaglen swyddogol y tîm ar gyfer y Gemau Olympaidd.

Fe ddaeth hyn i'r amlwg ddiwrnod ar ôl i faner De Korea gael ei roi gyferbyn â lluniau tîm pêl-droed Merched Gogledd Korea yn Stadiwm Hampden Park ar ddiwrnod cynta'r Gemau.

Mae Allen, a anwyd yn Sir Benfro, yn un o bump Cymro sydd yn y garfan o 18.

Y gred ydi y bydd Allen yn chwarae yng ngêm gyntaf y tîm nos Iau yn erbyn Senegal yn Old Trafford.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gemau, LOCOG, na fydd y rhaglenni yn cael eu hailargraffu ond y bydd y rhaglenni dilynol yn cael eu cywiro.

"Roedd 'na gamgymeriad yn ein rhaglen pan nodwyd bod Joe Allen yn Sais.

"Rydym yn ymddiheuro am y camgymeriad.

"Bydd yr ail a'r trydydd argraffiad, gyda newyddion newydd a chanlyniadau'r gemau yn cael eu hargraffu.

"Fe fydd y manylion am Joe Allen yn cael eu cywiro yn yr argraffiadau yma.

"Fydd 'na ddim ailargraffu na gwastraff."

Chwaraewr canol cae Abertawe yw'r unig Gymro Cymraeg yn y garfan.

Ymddiheuro

Yn y rhaglen o dan 'Cenedl' y mae'r pedwar arall, Ryan Giggs, Craig Bellamy, Aaron Ramsey a Neil Taylor, yn cael eu disgrifio fel Cymry.

Mae Cymdeithas Bêl-Droed Cymru wedi annog chwaraewyr Cymru i beidio chwarae yn y Gemau.

Doedden nhw ddim am wneud sylw ar y mater.

Yn y cyfamser, mae'r trefnwyr wedi ymddiheuro i dîm Gogledd Korea am y camgymeriad.

Roedd y garfan wedi gadel y cae pan wnaethon nhw weld y camgymeriad.

Roedd 'na oedi am awr cyn iddyn nhw ddychwelyd.

"Fe wnaeth camgymeriad ac rydym wedi ymddiheuro am hynny, meddai Andy Mitchell, llefarydd ar ran Llundain 2012.

Hefyd gan y BBC