Dyn wedi marw mewn damwain ffordd
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi marw yn dilyn damwain ddifrifol ger pentref Penderyn yn Rhondda Cynon Taf.
Yn ôl yr heddlu, roedd y ddamwain tua 3pm rhwng yr A4061 a chylchfan Rhigos ar yr A465.
Dim ond un cerbyd oedd yn y ddamwain.
Cafodd yr A4059 ei chau i'r ddau gyfeiriad am gyfnod.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol