Deifiwr yn mynd i drafferthion yn chwarel Dorothea
- Cyhoeddwyd

Mae mwy na 20 o ddamweiniau marwol wedi bod yn y chwarel ers 1990
Aed â deifiwr 24 oed i siambr arbennig ysbyty preifat yng Ngilgwri wedi iddo fynd i drafferthion mewn hen chwarel yng Ngwynedd.
Hofrennydd Sea King y Llu Awyr aeth ag e wedi'r ddamwain yn Chwarel Dorothea yn Nyffryn Nantlle.
Y gred yw ei fod yn diodde symptomau parlys môr.
Mae'r chwarel tua 100 metr o ddyfnder ac yn atyniad poblogaidd er nad yw'n safle swyddogol.
Ers 1990 mae mwy na 20 o ddamweiniau marwol wedi bod yno.