Prosiect hen luniau mewn arddangosfa oriel

Published
image captionDywedodd curadur arddangosfa Bywyd y Stryd ym Mae Colwyn, Paul Sampson, ei fod wedi cael ymateb "rhyfeddol o dda" i'r prosiect o luniau lleol. Mae'r llun yma yn dyddio o 1954.
image captionNid oes modd dyddio rhai lluniau'n hollol gywir. Credir i'r llun yma ddyddio o'r 1980au.
image captionTynnwyd y llun yma tua 1979 yn Ffair Bleser Pat Collins ym Mae Colwyn.
image captionCafodd y lluniau eu hychwanegu at fap enfawr ar waliau'r oriel. Mae wedi creu portread o'r dref ar hyd y blynyddoedd drwy luniau personol.
image captionCymerwyd y llun yma o'r Dywysoges Margaret yn agor Canolfan Ddigwyddiadau Eirias ym 1981.
image captionMae'r arddangosfa yn gorffen ar ddydd Llun 30 Gorffennaf.
image captionMae Mr Sampson yn gobeithio bydd llyfrgelloedd, ysgolion a chanolfannau siopa yn medru arddangos darnau o'r map wedi i'r arddangosfa orffen.

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol