Yn barod ar gyfer cychwyn swyddogol y Gemau Olympaidd
- Cyhoeddwyd

Roedd sylw'r byd ar Seremoni Agoriadol Gemau Olympaidd 2012 yn Llundain nos Wener.
Dechreuodd y sioe dair awr am 9pm ac mae disgwyl y bydd 1 biliwn yn gwylio'r seremoni ar y teledu dros y byd.
Roedd miloedd yn gwylio'r digwyddiad ar sgriniau mawr ym Mharc Eirias ym Mae Colwyn, Abertawe a Chaerdydd.
Cwm Rhondda
Mae Only Kids Aloud wedi recordio Cwm Rhondda fydd yn cael ei chwarae yn y stadiwm.
Fel rhan o ddathliadau'r seremoni roedd y Red Arrows wedi hedfan dros ganol Caerdydd am 4.40pm.
Dechreuodd y daith am 1.15pm o Ganolfan y Llu Awyr yn Y Fali cyn hedfan dros Ben Llŷn, Aberystwyth, Baglan, Pen-y-bont ar Ogwr a Bro Morgannwg.
Am 8.12am roedd clychau eglwysi, gan gynnwys eglwysi cadeiriol Tyddewi a Llandaf, yn canu am dair munud.
Mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones, oedd yn y Seremoni Agoriadol, wedi dymuno'n dda i'r aelodau o Gymru sydd yn y garfan athletau cyn cystadlu.
Ymhlith y 30 o athletwyr o Gymru mae Dai Greene, Helen Jenkins, Hannah Mills a Tom James.
'Gwaed, chwys a dagrau'
"Rwy'n dymuno pob lwc i bob un o athletwyr Cymru sydd wedi ennill lle yn y tîm," meddai Mr Jones.
"Yn sicr, bydd pawb yn falch ohonyn nhw wrth iddyn nhw gynrychioli Cymru a'r DU yn y digwyddiad chwaraeon mwyaf gwych yn y byd.
"Bydd y cystadlu'n benllanw blynyddoedd o waed, chwys a dagrau - ac rwy'n gobeithio'n fawr y byddan nhw'n dod â medalau i Gymru.
"Roedd nifer y medalau a enillwyd yn Beijing yn eithriadol - byddai llwyddo i wneud cystal yn anhygoel a byddai gwneud hyd yn oed yn well na hynny yn freuddwyd."
Dywedodd y Gweinidog Chwaraeon Huw Lewis, sydd wedi recordio neges fideo yn dymuno lwc i'r tîm, fod y 30 o gystadleuwyr o Gymru wedi "ein gwneud yn hynod o falch".
"Rwy'n dymuno pob lwc i bob un ohonyn nhw wrth iddyn nhw geisio creu hanes ac rwy'n gobeithio y bydd eu campau'n ysbrydoli cenhedlaeth gyfan o bobl i roi cynnig ar chwaraeon eu hunain."
10,000 o athletwyr
Bydd y timau'n dod i mewn i'r stadiwm yn nhrefn yr wyddor Saesneg.
Dau eithriad sydd, y tîm cyntaf i mewn fydd Gwlad Groeg a'r un olaf fydd Prydain.
Mae 'na dros 10,000 o athletwyr o 204 o wledydd yn cymryd rhan yn y gemau.
Bydd plant o saith ysgol o Gymru yn rhan o'r Osgordd er Anrhydedd wrth i athletwyr ymlwybro drwy'r Parc Olympaidd i'r Stadiwm Olympaidd.
Ysgolion Bargoed, Bethesda, Y Coed-duon, Caerdydd, Ceredigion, Llandudno a Llanelwy sy'n anfon wyth o blant yr un.
Dywedodd Richard Hatwood, un o athrawon Ysgol Esgob Morgan yn Llanelwy, fod y plant wrth eu bodd yn creu cysylltiadau â chenedl fach.
"Mae plant Ysgol Sant Ignatius ar Ynysoedd y Cayman wedi anfon crysau-t a hetiau ac mae ein plant ni wedi anfon crysau-t bathodynnau a baneri Cymru atyn nhw."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2012