Teyrnged i frawd cariadus wrth i'r heddlu apelio am wybodaeth

  • Cyhoeddwyd
David Gary EdwardsFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,
Cafwyd hyd i gorff David Gary Edwards mewn tŷ yn Villa Terrace, Treboeth

Mae'r heddlu yn Abertawe sy'n ymchwilio i farwolaeth dyn yn y ddinas wedi cyhoeddi ei enw.

Cafodd yr heddlu eu galw i dŷ yn Villa Terrace yn ardal Treboeth tua 6.50pm ddydd Mercher.

Cafwyd hyd i gorff David Gary Edwards, 48 oed, yno.

Dydd Iau cafodd yr heddlu fwy o amser i holi dyn 33 oed mewn cysylltiad â'r achos.

Fe wnaeth y dyn o Bort Talbot ymddangos o flaen ynadon yn y ddinas er mwyn i'r heddlu gael mwy o amser i'w holi.

Mae'r heddlu wedi cael 36 awr ychwanegol i'w holi.

Fe wnaeth chwaer Mr Edwards, Elaine Goldup, dalu teyrnged iddo ar ran y teulu gan ddweud ei fod "yn ddyn hoffus".

Post mortem

"Roedd yn ddyn cymwynasgar, yn ofalus ac yn frawd cariadus.

"Roedd yn cael ei barchu gan ei nithoedd a neiaint.

"Bydd yn cael ei golli."

Mae ei farwolaeth yn cael ei drin fel achos o lofruddiaeth.

Mae'r heddlu yn aros am ganlyniadau post mortem i ganfod achos ei farwolaeth.

Yn y cyfamser mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth ac y dylai unrhyw un gysylltu â'r heddlu ar 01792 562732 neu ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol