Cronfa ddŵr: Dyn wedi marw
- Published
Mae'r heddlu'n ymchwilio wedi i ddyn farw ar ôl cwympo i mewn i gronfa ddŵr.
Cafodd Heddlu Dyfed Powys eu galw i Gronfa Ddŵr Dinas ym Mhonterwyd yng Ngheredigion toc cyn 9am ddydd Gwener.
Roedd y dyn wedi cael ei dynnu o'r dŵr erbyn i'r gwasanaethau brys gyrraedd ond roedd wedi marw.
Dywedodd yr heddlu nad oedd amgylchiadau amheus a bod y crwner wedi ei hysbysu.
Dyw'r dyn ddim wedi cael ei adnabod eto.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol