'Ddylai Bale ddim cael ei wahardd'

  • Cyhoeddwyd
Gareth BaleFfynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,
Chwaraeodd Gareth Bale am 74 munud mewn gêm gyfeillgar

Mae Cadeirydd Cymdeithas Olympaidd Prydain wedi gwadu honiadau gan bennaeth FIFA y dylai'r Cymro Gareth Bale gael ei wahardd.

Oherwydd anaf i'w gefn chafodd chwaraewr rhyngwladol Cymru ddim ei gynnwys yng ngharfan tîm pêl-droed Prydain ar gyfer y Gemau.

Ond fe wnaeth chwarae a sgorio gôl i'w dîm, Tottenham Hotspur, ar eu taith yn America yr wythnos yma.

Roedd Sepp Blatter wedi rhybuddio y gallai chwaraewyr oedd wedi eu hanafu gael eu gwahardd petai nhw'n chwarae i'w clybiau yn ystod y Gemau.

Gwella'n gynt

Ond dywedodd Yr Arglwydd Moynihan nad oedd yn cytuno gyda sylwadau Blatter.

"Dwi'n deall yr ymateb gan rai cefnogwyr a oedd wedi gobeithio gweld Gareth Bale yn rhan o'r tîm," meddai.

"Dwi'n croesawu'r ffaith ei fod wedi gwella yn gynt na'r disgwyl."

Mae wedi dod i'r amlwg na fydd Cymdeithas Bêl-Droed Lloegr yn gwneud cwyn i FIFA am fod Bale wedi chwarae i'w glwb.

Yn hytrach maen nhw yn canolbwyntio ar gemau tîm Prydain.

Pan gafodd y garfan ei chyhoeddi, doedd Bale ddim yn ffit, ond wedi gwella fe lwyddodd i chwarae 74 munud yn y gêm gyfeillgar yn erbyn Galaxy.