Cynllun ar gost o £1.3m i wella canolfan hamdden yn Rhuthun
- Published
Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn gwario £1.3 miliwn ar wella cyfleusterau chwaraeon yn Rhuthun.
Daw'r newyddion wrth i Gyngor Sir y Fflint agor ale bowlio newydd ym Mhafiliwn y Fflint fel rhan o gynllun gwerth £5 miliwn i ailwampio canolfannau hamdden.
Mae tirfesurwyr wedi bod wrthi yng Nghanolfan Hamdden Rhuthun ac Ysgol Brynhyfryd cyn i waith adeiladu campfa a chae pob tywydd ddechrau.
Cydweithio
Bydd y cynllun yn Rhuthun yn cynnwys cae pob tywydd, derbynfa â man gwylio ar gyfer y pwll nofio, ystafelloedd newid a champfa.
Dywedodd Jamie Groves, Pennaeth Adran Hamdden Cyngor Sir Ddinbych, fod y cyngor yn cydweithio â'u partner datblygu, Alliance Leisure, i wella cyfleusterau hamdden.
Ar hyn o bryd mae gan Ganolfan Hamdden Rhuthun bwll nofio 25 metr, cae pob tywydd bach, neuadd chwaraeon, campfa, ystafell ffitrwydd a chaeau gwair.
Mae cwmni Alliance Leisure eisoes wedi gorffen adeiladu ale fowlio yng Nghanolfan Hamdden y Fflint.
Cafodd ystafelloedd ffitrwydd eu hagor yn gynharach eleni ac fe fydd ardal chwarae i blant yn agor cyn bo hir.
Straeon perthnasol
- Published
- 18 Gorffennaf 2012
- Published
- 26 Mehefin 2012
- Published
- 28 Ebrill 2012