Contractwyr yn difrodi pibellau dŵr yng Nghasnewydd
- Cyhoeddwyd

Anfonodd Dŵr Cymru dîm o beirianwyr i atgyweirio'r brif bibell wnaeth dorri brynhawn Dydd Gwener.
Mae Dŵr Cymru'n rhybuddio pobl yng Nghasnewydd bod problemau'n bosib ar ôl i bibellau yng nghanol y ddinas gael eu difrodi gan gontractwyr.
Mae'r cwmni'n gobeithio y bydd 'na drefn ar bethau cyn bo hir.
Anfonodd Dŵr Cymru dîm o beirianwyr i atgyweirio'r brif bibell wnaeth dorri yn Hill Street brynhawn Dydd Gwener.
Mae cwsmeriaid wedi eu hysbysu gallai rhai cartrefi fod heb ddŵr ac y bydd gwasgedd isel yn achos rhai tai.
Dywed y cwmni y dylai'r cyflenwad ddychwelyd yn ystod nos Wener ond y gallai dŵr sy'n cael ei gyflenwi i dai fod wedi newid lliw.
Dylai unrhywun â phryderon ynghylch eu cyflenwad dŵr ffonio Dŵr Cymru ar 0800 0520130.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol