Trywanu: Arestio dyn
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi cael ei arestio wedi i ddyn a menyw gael eu trywanu fore Gwener ym Mhenygroes, Gwynedd.
Cafodd yr heddlu eu galw am 5.18am ddydd Gwener.
Aed â'r ddau i Ysbyty Gwynedd, Bangor, cyn cael eu rhyddhau.
Mae'r dyn yn cael ei holi yng Ngorsaf Heddlu Caernarfon.