BBC Cymru Fyw

Cyhuddo dyn o lofruddio dyn yn Nhreboeth, Abertawe

Published
image copyrightHeddlu De Cymru
image captionCafwyd hyd i gorff David Gary Edwards nos Fercher

Mae ditectifs wedi cyhuddo dyn 33 oed o Bort Talbot o lofruddio dyn 48 oed yn Abertawe.

Cafodd heddlu arfog eu galw i fflat yn Villa Terrace yn Nhreboeth am 6.50pm nos Fercher.

Fe gafodd corff David Gary Edwards ei ddarganfod.

Mae'r dyn gerbron Ynadon Abertawe fore Sadwrn.

Straeon perthnasol

  • Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddio yn Abertawe