Dyn yn y ddalfa ar gyhuddiad o lofruddio dyn yn Abertawe
- Cyhoeddwyd

Cafwyd hyd i gorff David Gary Edwards nos Fercher
Mae dyn yn y ddalfa ar gyhuddiad o lofruddio dyn 48 oed yn Abertawe.
Roedd James Paul Colten, 33 oed o Bort Talbot, gerbron Ynadon Abertawe a bydd yn y ddalfa tan Awst 7.
Cafodd heddlu arfog eu galw i fflat yn Villa Terrace yn Nhreboeth am 6.50pm nos Fercher.
Fe gafodd corff David Gary Edwards ei ddarganfod.
Straeon perthnasol
- 26 Gorffennaf 2012
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol