Gwrthdrawiad: Chwech yn yr ysbyty
- Cyhoeddwyd
Aeth saith i'r ysbyty wedi gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd brynhawn Sadwrn.
Arhosodd chwech yn yr ysbyty dros nos ac mae eu cyflwr yn sefydlog.
Roedd y gwrthdrawiad ar yr A458 ym Mhowys rhwng Castell Caereinon a Chyfronydd am 3.20pm.
Dywedodd yr heddlu fod yr heol ynghau tan 9.30pm.
Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio 101 neu 01267 222020.