Codi'r llen ar gyfnod newydd i Ganolfan Mileniwm Cymru

  • Cyhoeddwyd

Mae Canolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd wedi sefydlu ei hun fel un o brif ganolfannau celfyddydol Cymru ers agor ym mis Tachwedd 2004.

Mae hi'n hen gyfarwydd a llwyfannu cynyrchiadau pobl eraill.

Ond am y tro cynta' erioed mae Canolfan Mileniwm Cymru wedi cynhyrchu ei drama ei hun.

Hanes pum bachgen yn tyfu'n oedolion a geir yn Bili'n Bwrw'r Bronco.

Mae'r cynhyrchiad cyntaf yn mynd ar daith yr wythnos nesa'.

Addasiad o ddrama Saesneg Decky Does a Bronco yw hi.

"Mae'n bwysig ein bod yn cynhyrchu sioeau ein hunain ar ôl denu sioeau o'r West End a thramor," meddai Gareth Lloyd Roberts o Ganolfan y Mileniwm.

Awyr agored

"Gobeithio wedyn gallu teithio ledled Cymru, Prydain a'r byd."

Drama sy'n olrhain hanes criw o fechgyn yn tyfu'n oedolion yng Nghwm Tawe yn yr 1980au ac yn treulio rhan helaeth o'u hamser yn chwarae yn eu parc lleol.

Ond nid drama i'w llwyfannu yng Nghanolfan y Mileniwm yw hon gan y bydd hi'n ddrama yn yr awyr agored.

Yn ôl un o'r actorion, Siôn Ifan, mae hynny wedi bod yn her.

"Y tywydd yw'r ffactor mwya'. Ry' ni 'di cael wythnos braf i wneud yr ymarferion technegol.

"Gobeithio y bydd yn para.

"Mae cŵn yn dod i mewn ar y set gan ei fod mewn parc cyhoeddus."

Fe fydd y ddrama ymlaen yng Nghaerdydd tan ddydd Sadwrn cyn mynd i Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg.

Bydd hefyd yn teithio i Ystradgynlais, Abertawe, Yr Wyddgrug, Caernarfon, Llanelli ac Aberystwyth.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol