Ymgyrchwyr eglwys ym Maerdy yn cynnal y gwasanaeth olaf

  • Cyhoeddwyd
Eglwys yr Holl Saint ym MaerdyFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,
RoeddYr Eglwys yng Nghymru wedi cynnig i'r plwyfolion brynu'r eglwys

Mae'r gwasanaeth olaf wedi ei gynnal mewn eglwys yn Y Rhondda, lle'r oedd plwyfolion wedi ymdrechu i'w chadw ar agor.

Roedd cyfeillion Eglwys yr Holl Saint ym Maerdy wedi cynnal protestiadau ac wedi aros dros nos yn yr eglwys yr haf diwethaf.

Ond fe wnaethon nhw ddod i benderfyniad nad oedd modd iddyn nhw fod yn gyfrifol am fil adnewyddi £400,000.

Roedd 'na bryder hefyd ar ôl adroddiad diweddar ar ddyfodol Yr Eglwys yng Nghymru, a oedd yn croesawu plwyfi mwy.

Roedd Yr Eglwys yng Nghymru wedi dweud y byddan nhw'n rhentu'r adeilad i'r ymgyrchwyr am flwyddyn arall.

Nos Sul cafwyd y gwasanaeth olaf yna.

Dim arian

Dywedodd Barbara Daniel, un o'r ymgyrchwyr, bod y plwyfolion yn drist ond yn "hynod falch" o'r hyn a gafodd ei gyflawni.

"Roeddem wedi gobeithio y gallem fod wedi adnewyddu'r adeilad," meddai.

Disgrifiad o’r llun,
Mae angen gwario tua £400,000 ar adnewyddu'r adeilad

"Ond yn wyneb popeth, a'r adroddiad diweddar, roeddem yn gwybod nad oedd odd ailagor yr eglwys.

"Rydym wedi cael lot o gefnogaeth ac mae'r gwasanaeth olaf yn mynd i fod yn arbennig cyn i ni drosglwyddo'r allweddi yn ôl i'r Eglwys yng Nghymru."

Y gwasanaeth nos Sul oedd y cyntaf ers y Nadolig ac roedd yn gyfle hefyd i werthfawrogi'r ymdrech a wnaed i geisio cadw'r adeilad ar agor.

Am fis ym mis Gorffennaf y llynedd bu eglwyswyr yn aros yn yr adeilad ar ôl clywed y byddai'n rhaid cau'r eglwys.

Fe wnaeth ymgyrchwyr bleidleisio o blaid prynu'r eglwys ar ôl i'r Eglwys yng Nghymru ddweud y bydden nhw'n ei werthu am £1,000.

Roedd hynny ar yr amod y byddai'n cael ei gadw fel adeilad o addoliad.

Ond doedd gan yr ymgyrchwyr ddim digon o arian ar gyfer y gwaith adnewyddu.

Dywedodd Ms Daniel ei bod wedi addoli yn yr eglwys am bron i 46 mlynedd ac nad oedd yn siŵr be fyddai'n digwydd i'r adeilad.

"Dwi ddim yn credu fydden nhw'n ei gadw gan ei fod mewn cyflwr gwael," meddai.

"Mae'n drist, mae'n eglwys mor gyfeillgar ac mae'n ganolfan bwysig i bawb yn y gymuned."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol