Cyngor sir i newid polisi ad-drefnu ysgolion?

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Gymunedol LlanwnnenFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,
Mae Llanwnnen tua thair milltir o Lanbed

Bydd Cabinet Cyngor Ceredigion yn ystyried gohirio cynllun i greu ysgol ardal newydd yng nghanol Ceredigion tan o leiaf yr Hydref.

Ym mis Ionawr eleni cymeradwyodd y cyngor y dylid cychwyn ymgynghoriad anffurfiol ynghylch creu ysgol ardal yng nghylch Llanwnnen, Llanwenog a Chwrtnewydd.

Byddai hynny'n golygu cau ysgolion Llanwnnen a Llanwenog a chreu ysgol ardal yng Nghwrtnewydd.

Ond yn awr mae cyfarwyddwr addysg y sir, Eifion Evans, wedi gofyn i'r cabinet oedi cyn gwneud unrhyw benderfyniadau pellach ynglŷn â'r cynllun tan fydd Ymgynghorydd Addysg Annibynnol wedi cwblhau adroddiad ynghylch rhaglen ad-drefnu ysgolion yng Ngheredigion.

Adolygiad

Daw'r argymhelliad wedi i arweinydd y cyngor, Ellen ap Gwynn, ofyn am adolygiad o'r strategaethau a'r polisiau cyfredol oedd yn gysylltiedig â'r rhaglen ad-drefnu ym mis Mehefin eleni.

Ym mis Hydref y llynedd roedd tua 40 o blant yn mynychu Ysgol Llanwnnen a thua 36 o blant ar gofrestr Ysgol Llanwenog.

Rhif trothwy'r cyngor cyn iddyn nhw gymryd camau i gau ysgolion cynradd yw 20 disgybl.

Dydd Mawrth bydd y cabinet yn ystyried cais Mr Evans i gefnogi'r sefyllfa fel y mae yn y tair ysgol tan fydd yr adolygiad yn gyflawn.

Yn ôl yr adroddiad mae yna gyfalaf o £2.22 miliwn ar gyfer y cynllun i greu'r ysgol ardal i'w ariannu gan "dderbynebau cyfalaf a benthyca darbodus".

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol