Dim sedd i bennaeth Chwaraeon Cymru er y lleoedd gwag

Seddi gwag Image copyright Getty Images
Image caption Mae 'na seddi gwag wedi'u gweld mewn nifer o ddigwyddiadau gan gynnwys y ganolfan farchogaeth ym Mharch Greenwich

Mae prif weithredwr Chwaraeon Cymru yn dweud iddo gael cais i adael y ganolfan ddŵr yng Ngemau Olympaidd 2012 nos Sadwrn am nad oedd ei docyn yn rhoi mynediad iddo er gwaetha'r holl seddi gwag yno.

Yn ôl Huw Jones, doedd ei docyn ddim yn caniatáu iddo ymweld â digwyddiadau gyda'r nos - a gofynnwyd iddo adael er bod nifer fawr o seddi ar gael.

Ond yn ôl cadeirydd y Gemau, yr Arglwydd Coe, mae'r canolfannau yn "orlawn" gyda chefnogwyr.

Ond gwelwyd nifer o seddi gwag mewn digwyddiadau dros y penwythnos.

Yn y cyfamser mae'r beiciwr o Gymru, Geraint Thomas, yn dweud ei fod yn siomedig bod cymaint o seddi gwag yn y digwyddiadau Olympaidd.

'Siomedig'

Dywedodd: "Rwy'n meddwl ei fod yn drist, i fod yn onest, gweld cymaint o seddi gwag yn y nofio a'r gymnasteg.

"Fe gefais i drafferth cael tocynnau, gan lwyddo yn y drydedd rownd."

Ychwanegodd: "Dwi ddim yn siwr pam. Mae 'na gymaint o bobl allan yna sydd eisiau mynd i wylio.

Dywedodd Mr Jones, pennaeth y corff sy'n gyfrifol am ddatblygu a hyrwyddo chwaraeon yng Nghymru, ei fod yn sefyllfa siomedig ond roedd yn canmol y trefnwyr Locog am geisio ymateb.

Daw ei sylwadau ar ôl i'r cadeirydd, yr Arglwydd Coe, fynnu na fyddai seddi gwag yn broblem yn y Gemau ond ei fod yn deall rhwystredigaeth pobl a'i fod yn ceisio sicrhau y byddai seddi'n cael eu llenwi.

Meddai Mr Jones: "Dydw i ddim wedi cael profiad da yn hyn o beth."

"Roedd 'na gynrychiolydd o Norwy oedd wedi cael yr un profiad," meddai.

"Rwy'n credu fod 'na nifer o broblemau y mae'n rhaid i Locog eu datrys."

Hefyd ar y BBC

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.