Tram yn dathlu penblwydd
- Cyhoeddwyd

Mae tramffordd Llandudno yn dathlu 110 mlynedd o gludo teithwyr i gopa'r Gogarth.
Dechreuodd y gwasanaeth ar Orffennaf 31 1902.
Dywedodd rheolwr y dramffordd, Neil Jones, mai rhan o'i swyn yw ei bod fel "taith yn ôl mewn amser".
"Mae'r tramiau wedi cael eu hadfer i edrych yn union fel y byddent 110 mlynedd yn ôl.
"Ac unwaith i chi adael Llandudno mae'r golygfeydd yn union fel y rhai y byddai eich neiniau a theidiau a'ch hendeidiau a hen-neiniau wedi gweld."
Syniad nifer o ddynion busnes y dref oedd dechrau adeiladu tramffordd i fyny'r Gogarth.
Roedd Llandudno'n tyfu fel cyrchfan gwyliau poblogaidd a byddai hyn yn eu galluogi i fanteisio ar y golygfeydd oddi yno.
Roedd ffyrdd i'r copa eisoes yn bodoli ond roedden nhw'n serth ac yn hir.
Dechreuwyd adeiladu'r dramffordd ym mis Ebrill 1901 ac yng Ngorffennaf 1902 aeth y tram cyntaf i fyny'r Gogarth, gyda chynulleidfa yn ei wylio a band arian y dref yn chwarae.
Ym mis Awst 1932 cafodd un o'r tramiau ddamwain difrifol, gan ladd y gyrrwr a merch 12 mlwydd oed.
Torrodd bar llusgo'r tram ac fe redodd i lawr yr Hen Ffordd a tharo'r wal ar y gwaelod.
Wedi hyn bu'r dramffordd ar gau am weddill 1932 a'r flwyddyn ganlynol.
Gosodwyd brêcs argyfwng newydd ar y tramiau ac fe wnaeth y dramffordd ail-agor yn 1934.
Yn 2005 ail-agorwyd y dramffordd unwaith eto wedi pedair blynedd ar ôl gwario £4.5 miliwn yn ei hadfer.
Dywedodd Mr Jones byddai diwrnod o ddathlu ddydd Mawrth gyda chacen a chystadleuaeth i ymwelwyr ifanc.
Straeon perthnasol
- 16 Medi 2009
- 4 Ebrill 2005
- 31 Gorffennaf 2002