Dyn yn pledio'n euog i ddynladdiad ei wraig a'i fab
- Cyhoeddwyd

Mae dyn 42 oed wedi pledio'n euog i ddynladdiad ei wraig a'u mab dyflwydd oed yng nghartre'r teulu yn ardal Tremadog ym mis Mawrth.
Fe dderbyniodd Gwasanaeth Erlyn y Goron nad oedd David Wyn Jones yn ei iawn bwyll.
Cafodd Suzanne Jones, 34 oed, a'i mab, William, eu darganfod yn farw yn eu cartre' ym Mhwllgoleulas ar Fawrth 30 ar ôl beth a ddisgrifiwyd fel "achos domestig".
Roedd cwest cynharach wedi dod i'r casgliad fod y ddau wedi cael eu trywanu.
Roedd Jones yn crïo yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Llun ar ôl cyfadde' i'r dynladdiad.
"Roedd y diffynnydd yn berson â chymeriad da yn flaenorol," meddai'r erlyniad.
"Does dim hanes o drais yn y cartre' yn erbyn ei wraig na'i blentyn.
"Doedd o ddim dan ddylanwad alcohol na chyffuriau adeg y drosedd. Doedd dim rheswm synhwyrol dros yr hyn a wnaeth."
Roedd ymchwiliad yr heddlu yn dangos fod Jones wedi bod yn ymddwyn yn od yn y cyfnod yn arwain at y marwolaethau.
'Abnormalrwydd meddyliol'
Wrth dderbyn y ple dynladdiad ar y sail nad oedd Jones yn ei iawn bwyll, ychwanegodd yr erlyniad, bod 'na "dystiolaeth glir a chredadwy gan ddau arbenigwr seiciatryddol fod y diffynnydd hwn wedi diodde' ac yn diodde' o abnormalrwydd meddyliol".
"Dyw hi ddim yn niddordeb y cyhoedd i geisio cael rheithfarn mewn cysylltiad â llofruddiaeth."
Wrth roi ei sêl bendith i'r ple, dywedodd y barnwr Merfyn Hughes QC fod hyn wedi bod yn benderfyniad anodd o ystyried "difrifoldeb y drasiedi".
Mae'r achos nawr wedi ei ohirio a bydd Jones yn cael ei ddedfrydu'n ddiweddarach.
Mae Jones yn cael ei gadw mewn ysbyty ar hyn o bryd o dan amodau iechyd meddwl.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd2 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd1 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd31 Mawrth 2012