Ffermwyr yn gohirio protest
- Cyhoeddwyd

Bu ffermwyr yn protestio y tu allan i arfarchnad Morrisons yn Y Trallwng yn gynharach yn y mis
Mae ffermwyr Cymru wedi penderfynu gohirio'u protest am brisiau llaeth dros gyfnod y Gemau Olympaidd.
Yn dilyn cyfarfod ym marchnad y Trallwng fore Llun, cyhoeddodd y ffermwyr nad ydyn nhw am elyniaethu'r cyhoedd a cholli eu cefnogaeth i'w hachos.
Yn dilyn protestiadau yn ddiweddar mae rhai cwmnïau wedi gwneud tro pedol ar gynlluniau i dalu llai am laeth gan y ffermwyr, ond fe ddywed amaethwyr bod angen ateb mwy hirdymor i'r sefyllfa.
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd llefarydd ar ran undeb NFU Cymru:
"Mae'r Gemau Olympaidd yn ddigwyddiad chwaraeon anferth ac yn rhywbeth y dylai Prydain fod yn falch ohono.
"Nid yw NFU Cymru am gefnogi mewn unrhyw ffordd unrhyw weithredu allai amharu ar y digwyddiad hanesyddol yma."
Straeon perthnasol
- 21 Gorffennaf 2012
- 20 Gorffennaf 2012
- 16 Gorffennaf 2012
- 11 Gorffennaf 2012
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol