Huw Llywelyn Davies yn cyflwyno Eisteddfod am y tro ola'

  • Cyhoeddwyd

Ar ôl 33 blynedd fel un o gyflwynwyr yr Eisteddfod Genedlaethol i BBC Cymru, bydd y sylwebydd rygbi Huw Llywelyn Davies yn cyflwyno o'r Brifwyl ym Mro Morgannwg am y tro olaf.

Dywedodd y gŵr o Waun Cae Gurwen bod "rhaid gorffen rhywbryd".

Mae'r Eisteddfod yn cael ei chynnal ar hen faes awyr Llandŵ rhwng Y Bont-faen a Llanilltud Fawr.

Huw fydd yn gyfrifol am y seremonïau, a bydd Caryl Parry Jones a Nia Roberts yn ymuno â'r criw cyflwyno i gadw cwmni i'r gwylwyr yn ystod holl gystadlu'r dydd.

Iolo ap Dafydd fydd yn crwydro'r maes i gael y straeon diweddara' tra bydd Rhun ap Iorwerth yn crynhoi uchafbwyntiau'r dydd bob nos.

'Mwynhau'r Ŵyl'

"Rwy' wedi bod yn ffodus iawn yn cael amrywiaeth eang o brofiadau yn ystod fy ngyrfa - yn darlledu mewn cymaint o feysydd gwahanol ar radio a theledu," meddai Huw.

Disgrifiad o’r llun,
Y pump fydd yn dod â'r cystadlu a'r straeon o Brifwyl Bro Morgannwg

"Ond does yna'r un wythnos wedi rhoi mwy o foddhad a phleser i fi dros y blynyddoedd nag wythnos gyntaf mis Awst a'r Eisteddfod Genedlaethol.

"Anodd credu ond rwy' wedi cyflwyno i BBC Cymru bob blwyddyn ers ymuno â'r Gorfforaeth ym 1979 ac yn Nyffryn Lliw yn 1980 y cychwynnodd y cyfan.

"Chwith meddwl taw hon fydd yr olaf ond rhaid gorffen rhywbryd a chaf gyfle i fwynhau'r Ŵyl fel Eisteddfodwr o hyn ymlaen."

Dyma'r tro cyntaf i Nia Roberts gyflwyno o'r Brifwyl ers tua 10 mlynedd a dyma fydd y tro cyntaf i Iolo ap Dafydd ohebu o'r Brifwyl.

"Fel rhan o dîm cyflwyno'r Eisteddfod ym Mro Morgannwg eleni, mi fydda i'n chwilio am bob math o bynciau difyr i'w trafod, a gwneud hynny yn fwy hamddenol nag ar ras wyllt i'r rhaglenni newyddion mae'n siŵr!" meddai Iolo ap Dafydd, sy'n Ohebydd Amgylchedd gyda Newyddion BBC Cymru.

Bydd BBC Radio Cymru unwaith eto yn rhan o'r arlwy, gyda Hywel Gwynfryn a Rhiannon Lewis yn cyflwyno'r cystadlu yn fyw, wrth i Nia Lloyd Jones fod yng nghefn y Pafiliwn a Stifyn Parri yn crwydro'r Maes.

Hefyd gan y BBC