Neuadd arddangos Bro Morgannwg y fwya' erioed
- Cyhoeddwyd

Mae Neuadd Arddangos Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg yn fwy nag erioed.
Yno mae crefftwyr yn arddangos eitemau o bob math, o waith cain i emwaith ac o luniau i ddodrefn ac eleni mae 44 o unedau yno.
Am y tro cyntaf mae map ar gael o'r neuadd er mwyn helpu ymwelwyr i ddod o hyd i'w hoff fusnesau.
"Mae'r ymateb i'r Neuadd Arddangos wedi bod yn arbennig o dda," meddai Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod.
"Rydym wedi gorfod gwneud yr adeilad yn fwy ddwywaith yn ystod y cyfnod cynllunio er mwyn rhoi cartref i bawb yn y neuadd.
"Mae poblogrwydd y neuadd yn arwydd o lwyddiant yr Eisteddfod i gynnig ffenest siop arbennig i grefftwyr ac artistiaid o Gymru ac mae hon yn rhan fawr o'n gweledigaeth ni i gefnogi'r celfyddydau ...
"Gobeithio y bydd y neuadd yn llwyddiant unwaith eto eleni ac rwy'n sicr y bydd y map arbennig o fudd i'n hymwelwyr wrth iddyn nhw grwydro'r unedau yn chwilio am gynnyrch Cymreig o safon."