Apêl am wybodaeth wedi lladrad arfog

  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth ar ôl lladrad arfog mewn siop yng Nghasnewydd ddydd Sadwrn.

Fe wnaeth dyn fygwth aelod o staff yn Siop Sovereign Stores gyda chyllell tua 9.45pm

Cymrodd arian a sigarennau gan y staff.

Mae'r lleidr yn wyn, tua 19 neu 20 oed, a thua chwe troedfedd o daldra.

Roedd ganddo acen leol ac yn gwisgo top Nike tywyll a jeans gals.

Cred yr heddlu mae'n bosib ei fod wedi bod yn stelcian y tu allan i'r siop tua 30 munud cyn y lladrad.