Cefn Coch yn cael ei ddewis ar gyfer lleoli is-orsaf
- Cyhoeddwyd
Ddydd Mawrth cyhoeddodd y Grid Cenedlaethol gynlluniau ar gyfer cludo cyflenwad trydan o ffermydd gwynt yn y Canolbarth i Loegr.
Y bwriad ydi codi is-orsaf drydan ym mhentref Cefn Coch ger Llanfair Caereinion.
Fe fydd peilonau yn cludo'r trydan oddi yno drwy ardal Llansantffraid a dros y ffin i Lower Frankton yn Sir Amwythig.
Cyhoeddwyd y penderfyniad yng Ngwesty'r Royal Oak yn Y Trallwng ddydd Mawrth.
Dywedodd y Grid Cenedlaethol y byddai'n debygol i'r rhwydwaith fod yn gyfuniad o linellau pŵer uwchben a cheblau tanddaearol.
Roedd y Grid Cenedlaethol yn ystyried dau safle yn Sir Drefaldwyn ar gyfer yr is-orsaf newydd - y llall oedd Aber-miwl yn Nyffryn Hafren ger Y Drenewydd.
Dywed gwrthwynebwyr i'r cynlluniau y bydd yr is-orsaf a'r rhwydwaith o beilonau yn dinistrio cefn gwlad.
Mae mudiad Sir Drefaldwyn yn Erbyn Peilonau wedi galw cyfarfod i drigolion lleol yng Nghefn Coch am 5:00pm ddydd Mawrth.
Ymgynghoriad cyhoeddus
Bydd y peilonau, rhai yn 154 troedfedd (47m) o uchder, yn cludo trydan o ffermydd gwynt yng nghanolbarth Cymru.
Gallai'r trydan sy'n cael ei gynhyrchu gael ei ddosbarthu i dde ddwyrain Lloegr.
Bydd cyfnod o ymgynghori cyn y gellir symud ymlaen â'r cynlluniau.
Ar ôl cyhoeddi eu cynlluniau'r llynedd mae'r Grid Cenedlaethol eisoes wedi cynnal nifer o arddangosfeydd cyhoeddus.
Maen nhw'n dweud fod canolbarth Cymru wedi cael ei glustnodi fel lleoliad pwysig i ddatblygu ynni gwynt.
Ond mae yna wrthwynebiad cryf wedi bod yn lleol, gyda nifer o gyfarfodydd cyhoeddus a phrotestiadau
Dywedodd Jeremy Lee, prif reolwr prosiect y Grid Cenedlaethol: "Rydym wedi bod yn awyddus iawn i wrando ar adborth bobl leol sydd wedi ein helpu ffurfio ein cynlluniau yn ogystal â'r gwaith rydym wedi ei wneud ers yr ymgynghoriad.
"Rydym yn deall fod gan bobl pryderon ynglŷn â llinellau pŵer uwchben ond lle byddan nhw'n cael eu defnyddio fe fyddwn ni'n gweithio'n galed i liniaru unrhyw effaith weledol gan lwybro'r llinell yn ofalus a defnyddio dyluniadau peilon newydd, allai gynnwys y peilon-T newydd."
800 o dyrbinau?
Wrth groesawu'r cyhoeddiad, dywedodd Dr David Clubb, cyfarwyddwr RenewableUK Cymru:
"Mae angen uwchraddio'r rhwydwaith i gysylltu ynni gwyrdd o'r ardal i'r system drosglwyddo trydan er mwyn gwasanaethu cartrefi a busnesau lleol.
"Mae ffermydd gwynt ar y tir yn cynnig cyfle gwych i Gymru fuddsoddi a chreu swyddi."
Dywedodd llefarydd ar ran y Grid Cenedlaethol mai gwaith y rhwydwaith yw sicrhau fod gan y ffermydd gwynt modd i gyflenwi trydan i'r rhwydwaith.
Mae Alison Davies, o grŵp ymgyrch Gwarchod Mynyddir Maldwyn, wedi dweud fod yna gynlluniau i godi dros 10 o ffermydd gwynt, a gallai hynny olygu 800 o dyrbinau i'r canolbarth yn y dyfodol.
Yn ôl Llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig ar yr amgylchedd, William Powell AC:
"Mae'r penderfyniad hwn yn sicr o gael effaith negyddol iawn ar nifer o bobl, felly rwy'n credu ei fod yn hollbwysig i bawb sydd â diddordeb gymryd amser i ystyried yr opsiynau posib.
"Ar bob cyfri fe ddylai perchnogion tir, busnesau a chymunedau fydd yn gweld effeithiau'r cyhoeddiad yma gael eu digolledu."
Bydd yr is-orsaf ar safle 19 erw o dir ac fe allai'r gwaith o'i chodi gael ei gwblhau erbyn 2015.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2012