Llysoedd o'r farn bod oböydd wedi ei ddiswyddo'n annheg

  • Cyhoeddwyd
Murray JohnstonFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Murray Johnston wedi mynd â'r achos i dribiwnlys cyflogaeth

Mae'r Llys Apêl wedi dyfarnu fod prif oböydd gydag Opera Cenedlaethol Cymru (OCC) wedi cael ei ddiswyddo'n annheg.

Collodd Murray Johnston, 63 oed, ei swydd ar ôl 34 mlynedd gyda'i gyflogwyr yn honni nad oedd ei offeryn yn "asio" gyda gweddill y gerddorfa.

Roedd Mr Johnston o ardal Radyr, Caerdydd, yn honni i'w yrfa gydag OCC ddioddef oherwydd ffrae bersonol gyda'r cyn gyfarwyddwr cerdd, Carlo Rizzi.

Bu Mr Rizzi yn arweinydd ar y cwmni am ddau gyfnod - rhwng 1992 a 2001, ac yna rhwng 2004 a 2007.

Ymunodd Mr Johnston â'r cwmni yn 1974 a bu'n gweithio dan sawl arweinydd, yn eu plith Mr Rizzi.

Roedd e'n honni ei fod wedi cael ei ddiswyddo yn annheg yn 2008 ar ôl cael ei fwlio yn gyson gan Mr Rizzi.

Roedd y cwmni wedi gwadu hynny'n llwyr.

Iawndal

Ers blynyddoedd roedd Mr Johnston wedi brwydro i geisio profi ei fod wedi ei ddiswyddo yn annheg.

Bydd yr achos nawr yn dychwelyd i dribiwnlys cyflogaeth i benderfynu faint yn union o iawndal fydd yn rhaid i'r cwmni opera dalu iddo.

Ond, wrth gyfeirio at gostau enfawr tri gwrandawiad blaenorol, dywedodd yr Arglwydd Ustus Maurice Kay:

"Rwy'n gobeithio y bydd y ddwy ochr yn ystyried trafod setliad, trwy gyfryngdod os oes rhaid."

Dywedodd y barnwr, un o dri yn yr Uchel Lys ddydd Mawrth, ei fod yn "anochel" y byddai proses ddisgyblu Mr Johnston oherwydd ei fethiannau cerddorol honedig yn cael ei farnu yn "annheg".

Proses ddisgyblu

Yn dilyn "trafferthion" hirdymor rhwng yr oböydd a Mr Rizzi, roedd Mr Johnston wedi bodloni aseswyr - gan gynnwys y cyfarwyddwr cerdd ar y pryd - fod ei donyddiaeth a'i sain yn ddigon da yn ystod clyweliadau.

Ond cynyddodd y feirniadaeth ohono mewn sefyllfaoedd "ensemble" ac "asiad" ei offeryn gyda gweddill y gerddorfa.

Cafodd ei ddiswyddo wedi i OCC ddweud nad oedd modd profi agweddau o'i chwarae gyda dim ond piano, a bod angen ei glywed "dan amodau ensemble llawn".

Er bod y cwmni'n honni iddyn nhw ddilyn y broses ddisgyblu yn eu llawlyfr, doedd hynny ddim yn cyd-fynd â'u cytundeb gydag Undeb y Cerddorion, oedd i fod i amddiffyn cerddorion "rhag asesiad rhy oddrychol" o'u perfformiad artistig.

Dywedodd yr Arglwydd Ustus Kay: "Roedd hi'n annheg rhoi Mr Johnston trwy'r broses ddisgyblu oedd yn y llawlyfr, heb gynnwys rhybuddion llafar, ysgrifenedig a therfynol - hyd yn oed os mai'r bwriad oedd arbed rhagor o straen iddo.

Wrth ddyfarnu nad oedd y broses wedi bod yn ddigon gwrthrychol, ychwanegodd: "Doedd o ddim yn ymateb synhwyrol i'r broblem...mae'n anochel dod i'r casgliad fod y broses wedi bod yn annheg."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol