Bro Morgannwg yn cyrraedd y nod ddyddiau cyn i'r Brifwyl ddechrau
- Cyhoeddwyd

Ar drothwy Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg, mae'r Pwyllgor Gwaith wedi cyhoeddi eu bod wedi cyrraedd ei tharged ariannol ar gyfer y Brifwyl.
Yn wir, mae'r ardal wedi pasio'r nod a osodwyd o £300,000, gan gyhoeddi yn eu cyfarfod olaf nos Fawrth eu bod wedi llwyddo i gasglu £312,500.
Bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal eleni ar dir hen faes awyr Llandŵ ger Y Bont-faen a Llanilltud Fawr, ac yn ddechrau ddydd Sadwrn, Awst 4.
Dywedodd cadeirydd y pwyllgor gwaith, Dylan Jones, ei bod yn bleser cyhoeddi bod y gronfa wedi cyrraedd £312,500.
"Hoffwn dalu teyrnged i bawb sydd wedi bod wrthi mor ddygn dros y misoedd diwethaf yn trefnu gweithgareddau er mwyn ein helpu ni i gyrraedd y nod ariannol.
"Mae cefnogaeth trigolion y Fro wedi bod yn arbennig, ac mae'r gweithgareddau'n dal i barhau, er mai dyddiau'n unig sydd i fynd cyn agoriad swyddogol yr Eisteddfod, ac mae'r arian yn dal i lifo i mewn.
"Yn ddi-os, mae ymweliad yr Eisteddfod â'r ardal wedi dod â chymunedau ynghyd, a gobeithio y pery hyn ar ôl diwedd yr wythnos nesaf."
'Her'
Garry Owen yn holi Dylan Jones, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod
Ychwanegodd Hywel Wyn Edwards, Trefnydd yr Eisteddfod, bod y nod o £300,000 i drigolion Bro Morgannwg yn dipyn o her ar unrhyw adeg.
"Ond mae'n enwedig o anodd yn ystod cyfnod o gyni economaidd," meddai.
"Mae Dylan a'r criw wedi gwneud gwaith clodwiw, yn trefnu pob math o weithgareddau a digwyddiadau, a llongyfarchiadau mawr iddyn nhw oll ar gyrraedd - a phasio'r targed.
"Rydym wedi cael dwy flynedd arbennig iawn yn gweithio gyda thrigolion y Fro, a chyda'r gwirfoddolwyr lleol.
"Mawr yw ein diolch i bawb am eu croeso ac am y cydweithrediad parod a chyfeillgar wrth baratoi ar gyfer yr wythnos.
"Gobeithio y cawn Brifwyl i'w chofio yn y Fro yr wythnos nesaf fel pinacl i'r holl baratoadau a'r gwaith ar hyd a lled y dalgylch.
"Diolch o galon am bopeth."