Cyngor yn cefnogi Gorchymyn Prynu Gorfodol ar gynllun archfarchnad

  • Cyhoeddwyd
Enid Jones tu allan i'w chartrefFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,
Mae Enid Jones yn pryderu y gallai golli ei chartref er mwyn i ddatblygwyr allu codi archfarchnad a maes parcio newydd

Mae cabinet Cyngor Ceredigion wedi cefnogi cais i alluogi'r awdurdod lleol i ddefnyddio eu pwerau i brynu tai sy'n faen tramgwydd i gynllun i godi archfarchnad a siop newydd.

Deellir bod perchnogion rhan fwyaf o'r 12 tŷ yn Stryd Glyndŵr yn Aberystwyth yn fodlon gwerthu eu tai ar gyfer codi datblygiad Tesco a Marks & Spencer.

Fe gyflwynodd y datblygwyr, Chelverton Deeley Freed, y cais wedi i drafodaethau hir gyda thri o'r perchnogion fethu.

Mae'r penderfyniad ddydd Mawrth yn golygu y gallai Gorchymyn Prynu Gorfodol fod yn opsiwn petai'r trafodaethau ddim yn llwyddo - ond y cyngor llawn fydd â'r penderfyniad terfynol i ddefnyddio'u pwerau.

'Manteision sylweddol'

Yn ôl adroddiad a gyflwynwyd i'r cabinet ddydd Mawrth byddai'r cynnig datblygu yn "dwyn gydag ef manteision sylweddol" gan gynnwys derbyniadau cyfalaf o £3 miliwn i'r cyngor sir, swm o £1.2 miliwn ar gyfer costau'r cyngor ar gyfer ail ddarparu gwasanaeth gofal dydd yn Aberystwyth a chreu 300 o swyddi llawn amser

Fe fyddai'r cynlluniau yn gallu rhoi hwb i fasnach canol y dref o rwng £1.6 miliwn a £3.5 miliwn y flwyddyn, yn ôl yr adroddiad.

Un o'r tai allai gael eu dymchwel yw cartre' Enid Jones, sydd wedi addo na fydd hi'n symud er ei bod wedi cael cynnig cartref newydd.

Lleoliad ymarferol

Ym mis Ebrill dywedodd Mrs Jones fod y datblygwyr wedi cynnig addasu tŷ yn y dref neu adeiladu tŷ newydd iddi fel rhan o'r cytundeb iddi adael ei chartref.

Ond doedd hi ddim wedi gweld dim byd addas.

Cafodd y cynigion eu gwneud mewn cyfarfodydd rhyngddi hi a'r cyngor a'r datblygwyr ym mis Ionawr a mis Chwefror.

Ers ei bod yn 9 oed mae Mrs Jones wedi diodde' o Glefyd y Siwgr ac fe ddewisodd y tŷ yn Ffordd Glyndŵr oherwydd y lleoliad.

Pan brynodd y tŷ, dywedodd Mrs Jones sy'n byw ar ben ei hun, ei bod yn ymwybodol o'r cynlluniau ar gyfer y maes parcio.

Ond dywedodd nad oedd Ffordd Glyndŵr yn rhan o'r cynlluniau ar y pryd.

Hefyd gan y BBC

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol