Pryderon am orfod newid trefn ailgylchu siroedd Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae cynghorau yn rhybuddio am "oblygiadau pellgyrhaeddol" os bydd rhai ohonyn nhw' cael eu gorfodi i newid y modd maen nhw'n casglu gwastraff ailgylchu.
Ar hyn o bryd mae tua hanner awdurdodau lleol Cymru yn gadael i drigolion roi eu holl ailgylchu mewn un bag i'w ddidoli wedyn.
Ond gallai rheolau Ewropeaidd roi diwedd ar hyn, gan olygu bod yn rhaid gwahanu'r ailgylchu ar ochr y stryd.
Mae llawer o gynghorau wedi gwario miliynau o bunnoedd ar offer i wahanu sbwriel cyn ei fod yn cael ei ailgylchu.
Ond mae rhai yn dweud fod y drefn hon yn "israddol" ac maen nhw'n croesawu'r posibilrwydd o gyflwyno rheolau Ewropeaidd i orfodi didoli o flaen llaw - er bod dehongliad Llywodraeth San Steffan o'r rheolau yn dal i wynebu adolygiad barnwrol.
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod eisiau gweld pob cyngor yng Nghymru yn symud i system ddidoli - ond does dim cynlluniau i orfodi hyn ar hyn o bryd.
'Cysondeb'
Yn ôl llefarydd ar ran y Gweinidog Amgylchedd, John Griffiths: "Mae'r system yma yn lleihau gwastraff ac yn golygu bod modd casglu nifer fawr o ddeunyddiau glan i'w hailgylchu yn gynnyrch newydd.
"Mae hefyd yn rhoi gwell gwerth am arian na'r drefn un bag.
"Hoffai Llywodraeth Cymru weld pob awdurdod lleol yn mabwysiadu trefn o ddidoli o flaen llaw er mwyn cael mwy o gysondeb yn y gwasanaethau ar draws Cymru."
Mae nifer o gynghorau yn pryderu y gallai'r rheolau Ewropeaidd, sy'n dod i rym ym mis Ionawr 2015, olygu bod yn rhaid newid y drefn.
'Dryswch'
Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru: "Gallai'r dryswch ynglŷn â pha mor ymarferol yw hi i barhau â'r system un bag yn y dyfodol gael goblygiadau pellgyrhaeddol ar gyfer cynghorau a'u cymunedau lleol, gan fod tua hanner awdurdodau lleol Cymru'n gweithredu rhyw fath o system felly.
"Mae llywodraeth leol yng Nghymru'n llwyr gefnogi amcanion strategaeth gwastraff y llywodraeth, Tuag At Ddyfodol Diwastraff.
"Ond mae'n fater cymleth ac mae angen llawer iawn o gynllunio a buddsoddiad o ran peirianwaith ac offer, yn ogystal ag ymgyrchoedd i dynnu sylw a helpu trigolion i ddeall a gweithredu'r cynlluniau lleol."
Mae'r cynghorau wedi cael targedau uchelgeisiol o ran ailgylchu - 52% erbyn 2013, a 70% erbyn 2025.
Ar hyn o bryd maen nhw'n ailgylchu tua 48% o'u gwastraff ar gyfartaledd, ac mae 'na ddirwyon mawr am fethu'r targedau hyn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2011
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2010
- Cyhoeddwyd1 Medi 2010
- Cyhoeddwyd10 Awst 2010
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2010
- Cyhoeddwyd1 Medi 2009