Troi hen faes awyr yn iard sgrap?
- Published
Mae pwyllgor cynllunio wedi pleidleisio o blaid cynlluniau i ddefnyddio cyn faes awyr yn Eryri fel iard sgrap ar gyfer awyrennau.
Ond mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd yna oedi tra'u bod yn ysytried a ddylid trosglwyddo'r penderfyniad terfynol i'r Gweinidog Amgylchedd.
Tan i hynny ddigwydd, bydd dim modd rhoi sêl bendith i'r cais cynllunio.
Roedd aelodau o Gymdeithas Eryri, sy'n gwrthwynebu'r cais, yn dweud ei fod yn "amhriodol ar safle gwledig".
Eisoes mae cwmni Llanbedr Airfield Estates wedi cael tystysgrif i ddefnyddio'r safle i brofi awyrennau di-beilot ar y cyn faes milwrol.
Nawr mae'r cwmni wedi gwneud cais i ail ddefnyddio adeiladau ar y safle ar gyfer atgyweirio awyrennau.
Ymchwiliad cyhoeddus
Mae adroddiad yn dweud fod cynghorau cymuned yr ardal wedi cefnogi'r cynlluniau ar gyfer y safle, fyddai'n cyflogi hyd at 50 o bobl o fewn tair blynedd, yn ôl y ddogfen gynllunio.
Mae'n dweud y byddai'n cymryd hyd at 28 niwrnod i ddatgymalu awyrennau llai fel y Boeing 737, gyda rhai mwy fel y 747 yn cymryd hyd at 42 niwrnod.
Mae Cymdeithas Eryri eisiau i Lywodraeth Cymru benodi swyddog cynllunio i gynnal ymchwiliad cyhoeddus i ystyried y cais yn hytrach nag Awdurdod y Parc.
Straeon perthnasol
- Published
- 20 Rhagfyr 2011
- Published
- 9 Awst 2011
- Published
- 3 Tachwedd 2010
- Published
- 19 Chwefror 2010
- Published
- 12 Tachwedd 2009
- Published
- 5 Tachwedd 2009
- Published
- 16 Rhagfyr 2008
- Published
- 19 Hydref 2008
- Published
- 17 Mai 2008