Dynes yn gaeth wedi damwain car
- Cyhoeddwyd

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r safle rhwng Aberhonddu a Libanus am 3:34pm ddydd Mawrth
Bu'n rhaid i Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ryddhau dynes oedd yn gaeth yn ei cherbyd yn dilyn damwain ffordd ddydd Mawrth.
Roedd dau gar wedi taro yn erbyn ei gilydd ar yr A470, rhwng Aberhonddu a Libanus, toc wedi 3:30pm.
Cafodd y ddynes ei thorri'n rhydd gydag offer arbenigol a chafodd ei chludo i'r ysbyty mewn ambiwlans.
Roedd teithwyr yn y cerbyd arall - dynes a dau o blant - wedi cael triniaeth yn y fan a'r lle.
Cafodd y ffordd ei chau i'r ddau gyfeiriad yn dilyn y ddamwain a chafodd criwiau o Aberhonddu eu hanfon i'r safle, ond mae'r A470 bellach wedi ailagor yn dilyn y digwyddiad.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol