Cychwyn cerddorol i'r Brifwyl a fydd yn 'hwb i'r iaith'
- Cyhoeddwyd

Nos Wener fe fydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn dechrau ym Mro Morgannwg ac yn benllanw dros ddwy flynedd o gasglu arian a pharatoi.
Mae 'na obaith y bydd yn rhoi hwb i'r Gymraeg yn y fro.
Hwn yw ymweliad cyntaf y Brifwyl â'r fro ers 43 blynedd a'r Barri oedd cartref yr Eisteddfod yn 1968 ac yn 1920.
Eleni fe fydd yr Eisteddfod ar hen faes awyr Llandŵ rhwng Y Bont-faen a Llanilltud Fawr.
"Bydd ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â Bro Morgannwg yn rhoi hwb aruthrol i'r iaith Gymraeg yn yr ardal," yn ôl Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru.
Eleni mae Llywodraeth Cymru yn cyfrannu £506,400 i'r Eisteddfod ac fe fydd Mr Jones yn ymuno â Gorsedd y Beirdd.
'Gŵyl bwysicaf'
"Mae cysylltiadau diwylliannol a hanesyddol pwysig rhwng Bro Morgannwg, yr Eisteddfod a'r iaith Gymraeg," meddai Mr Jones.
"Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn ddigwyddiad pwysig i ni fel cenedl.
"Dyma un o'n gwyliau celfyddydol a diwylliannol pwysicaf, sy'n rhoi cyfle inni ddathlu ein diwylliant, ein treftadaeth a'n hiaith.
"Bydd y ffaith fod yr Eisteddfod yn ymweld â'r fro yn rhoi hwb enfawr i'r iaith Gymraeg yn yr ardal.
"Mae'r Gymraeg yn nodwedd bwysig sy'n gosod Cymru ar wahân.
"Mae'n perthyn i holl bobl Cymru - yn siaradwyr Cymraeg a phobl ddi-Gymraeg fel ei gilydd."
Eglurodd bod nifer y siaradwyr Cymraeg wedi cynyddu'n sylweddol yn y fro yn ystod y blynyddoedd diwethaf a bod addysg Gymraeg yn gyfrifol am hyn i raddau helaeth.
Mae canran y plant saith oed sy'n derbyn addysg drwy gyfrwng y Gymraeg wedi codi o 10.9% yn 2001 i 13.7% yn 2011.
Erbyn hyn mae pump o ysgolion cynradd Cymraeg ac un ysgol uwchradd Gymraeg yn y fro, gan gynnwys y ddwy ysgol gynradd Gymraeg yn Llanilltud Fawr a'r Barri agorodd eu drysau ym mis Medi 2011.
"Mynd un cam ymhellach yw'r her yn awr, fodd bynnag, a rhoi cyfle i blant a phobl ifanc fwynhau defnyddio'r Gymraeg tu allan i'r ysgol," ychwanegodd.
Côr newydd
"Yn gynharach eleni, lansiwyd ein strategaeth ar gyfer yr iaith Gymraeg - 'Iaith Fyw: Iaith Byw' - sy'n canolbwyntio ar helpu pobl i ddefnyddio'r Gymraeg bob dydd.
"Mae hynny'n cynnwys defnyddio'r dechnoleg newydd a'r cyfryngau cymdeithasol yn Gymraeg.
"Bydd angen syniadau newydd er mwyn datblygu'r iaith yn y dyfodol a sicrhau ei bod yn goroesi, ac mae'n rhaid i bawb ohonom yng Nghymru ei choleddu.
"Rwy'n dymuno pob llwyddiant i'r Eisteddfod eleni, a hoffwn ddiolch yn fawr i bawb sydd wedi gweithio mor galed i ddod â'r Eisteddfod yn ôl i'r Fro."
Ar gyfer y gyngerdd agoriadol mae 'na gôr newydd wedi ei ffurfio sy'n ymuno â theulu Only Men Aloud.
Mae Only Vale Kids Aloud yn gôr o blant oedran cynradd y fro a hwn fydd eu perfformiad cyntaf.
Fe fyddan nhw'n ymuno ag Only Men Aloud ac Only Boys Aloud yn y gyngerdd o dan arweiniad Tim Rhys-Evans.